Mae Phillip Cocu, rheolwr tîm pêl-droed Derby, yn galw am ddefnyddio VAR – neu’r dyfarnwr fideo – yn y Bencampwriaeth.
Daw ei sylwadau ar ôl i ddau benderfyniad allweddol fynd o blaid Caerdydd yn y gêm gyfartal 1-1 yn Pride Park neithiwr (nos Wener, Medi 13).
Apeliodd Derby am gic o’r smotyn ar ôl mynd ar ei hôl hi o 1-o ar ôl chwe munud, pan ddaeth hi’n amlwg fod Martyn Waghorn wedi cael ei lorio gan Joe Bennett.
O fewn munud a hanner i’r penderfyniad hwnnw, cafodd yr Adar Gleision gic o’r smotyn ac fe gafodd ei sgorio gan Robert Glatzel.
Ond yn ôl Phillip Cocu, roedd chwaraewr Caerdydd wedi llawio’r bêl yn ystod y symudiad.
“Mae’n anodd derbyn gyda phenderfyniadau mor allweddol o ran ciciau o’r smotyn,” meddai.
“Gyda Waghorn, mae’n gic o’r smotyn amlwg ac os ewch chi ar y blaen o 2-0 mae hyder y tîm yn codi ac mae’r siawns o sicrhau triphwynt yn fawr iawn.
“Dw i’n credu y bydd [VAR yn y Bencampwriaeth] yn digwydd. Mae’n gynghrair fawr.”
Caerdydd yn anhapus hefyd
Roedd Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, hefyd yn anhapus ar ôl i’r dyfarnwr fethu â dangos cerdyn coch i Tom Lawrence am dacl uchel ar Sean Morrison. Cafodd e gerdyn melyn.
“Dyna ddylai dyfarnwyr edrych amdano fe,” meddai.
“Os gwelwch chi hi’n araf, fe welwch chi dacl mor ofnadwy oedd hi.”