Mae cyn-gariad Syr Geoffrey Boycott, y cyn-gricedwr a sylwebydd, wedi lladd ar y penderfyniad i’w urddo’n farchog.
Mae Margaret Moore yn dweud ei bod hi “wedi ffieiddio” ar ôl iddo gael ei anrhydeddu 21 o flynyddoedd ar ôl i lys yn Ffrainc ei gael yn euog o ymosod arni.
“Fe wnaeth e fy nhrin i’n ofnadwy,” meddai wrth bapur newydd y Sun.
“Wna i fyth anghofio’r noson honno. Roedd hi’n ofnadwy.
“Pa fath o ddyn sy’n gwneud hynny ac yn cael ei urddo’n farchog?
“Fe ddylai e ei rhoi hi’n ôl.”
Yr achos
Cafwyd Geoffrey Boycott yn euog yn Ffrainc yn 1998 o ymosod ar Margaret Moore mewn gwesty.
Roedd ganddi gleisiau ar ei hwyneb a’i llygaid ar ôl iddi gael ei tharo hyd at ugain o weithiau yn y digwyddiad yn 1996.
Mae ymgyrchwyr trais yn y cartref wedi beirniadu Theresa May, cyn-brif weinidog Prydain, ynghylch ei phenderfyniad i’w urddo’n farchog wrth adael ei swydd.
Mae Women’s Aid yn dweud bod yr anrhydedd yn “anfon neges beryglus”, sef nad yw trais yn y cartref yn cael ei ystyried yn drosedd ddifrifol.
Ond mae Geoffrey Boycott yn dweud nad yw’n “poeni taten” amdani.
Cafodd e ddirwy o £5,000 a dedfryd o garchar am dri mis wedi’i gohirio.
Roedd yn honni ar y pryd fod Margaret Moore wedi cael ei hanafu wrth gwympo yn y gwesty.