Mae carfan rygbi Cymru wedi glanio yn Japan ar drothwy Cwpan y Byd.
Maen nhw’n treulio chwe niwrnod yn Kitakyushu, lle maen nhw wedi cynnal rhaglenni hyfforddi i blant yn y gorffennol.
Byddan nhw’n herio Georgia yn eu gêm gyntaf ar Fedi 23.
Cawson nhw eu croesawu i’r ddinas gan blant ysgol oedd yn gwisgo crysau Cymru, ac fe dreulion nhw gryn amser yn cael tynnu eu lluniau a rhoi llofnodion yn y maes awyr.
Derbyniodd Warren Gatland, y prif hyfforddwr, a’r capten Alun Wyn Jones dorchau o flodau.
Bydd seremoni swyddogol yn cael ei chynnal ddydd Llun i groesawu Cymru i’r ddinas.
Bydd Warren Gatland yn cyfarfod â’r wasg yfory (dydd Sul, Medi 15), lle mae disgwyl iddo egluro’r sefyllfa ynghylch ffitrwydd y ddau glo Adam Beard a Cory Hill.