Gweilch 17-13 Munster
Sicrhaodd y Gweilch bod eu record 100% yn parhau wrth i’r gynghrair Pro 12 gymryd hoe am dair wythnos. Trechodd y Gweilch Munster yn Limerick nos Sadwrn o 17-13, a hynny yn torri record ddiguro Munster ar y cae enwog ers deunaw mis. Y Gweilch oedd y tîm diwethaf i guro Munster ar eu tomen eu hunain nôl ym mis Ebrill 2010.
Agorodd Munster y sgorio wedi cwta dwy funud ar ôl i Hanno Dirksen, asgellwr addawol y Gweilch, oedi’n rhy hir ar y bêl cyn i Danny Barnes daro ei gic i lawr a thirio wrth y pyst.
Setlodd y Gweilch i mewn i’w rhythm ac roedd ganddynt oruchafiaeth glir yn y sgrym. Roedd rheng flaen y tîm cartref ar chwâl yn ystod yr hanner cyntaf, darparodd y blaenwyr blatfform cadarn i’r olwyr allu ymosod. Yn anffodus, ni lwyddodd y Gweilch fanteisio ar feddiant cyflym o fôn y sgrym.
Seren y gêm
Munster oedd yn rheoli ardal y dacl a nhw oedd yn ennill y gwrthdrawiadau yng nghanol cae. Ildiodd yr ymwelwyr y bêl llawer yn rhy hawdd ac roedd Peter O’Mahony, capten ifanc Munster a seren y gêm, yn ddylanwadol iawn yn difetha a dwyn meddiant y Gweilch. Bu Munster dan gysgod eu pyst am ddeg munud yn ystod yr hanner cyntaf, a dim ond dwy gôl gosb o droed Dan Biggar lwyddodd y Gweilch i’w sgorio.
Roedd Ian Keatley yn arbennig i’r Gwyddelod, ymestynnodd y fantais â chic gosb eu hun. Y sgôr yn 10-6 i Munster ar yr egwyl wedi i’r ddau faswr daro’r postyn â rhagor o giciau cosb.
Gyda sgrym y Gweilch yn chwalu eu gwrthwynebwyr mor aml, roedd yn syndod gweld propiau’r tîm cartref yn ailymddangos wedi’r hanner, yn enwedig o ystyried y profiad gan Marcus Horan a BJ Bothe ar y fainc. Cafodd Stephen Archer wers gan Duncan Jones, prop rhyngwladol y Gweilch ac anfonwyd y Gwyddel i’r cell cosb yn gynnar yn yr ail hanner. Lleihaodd Biggar mantais Munster i bwynt yn unig o’r gic cosb ddilynol.
‘Amryddawn’
Serch hyn, parhaodd Munster i bwyso ar linell gais eu gwrthwynebwyr. Roedd cais yn edrych yn anochel i’r tîm cartref cyn i Barry Davies ryng-gipio pas lac. Diolch i gefnogaeth arbennig Richard Fussel yn gyntaf, ac wedyn y mewnwr amryddawn Rhys Webb, aeth y Gweilch hyd y cae a chroesodd Webb yn y gornel. Methodd Biggar o’r ystlys a’r sgôr bellach yn 14-10.
Roedd hon yn gêm wnaeth fygwth tanio yn glasur ond roedd y naill dîm yn llwyddo i ddinistrio momentwm y llall. Daeth yr ornest i ferw yn gyntaf pan anfonwyd Justin Tipuric i’r cell cosb am dacl beryglus ar Keatley, ac wedyn pan ddaeth pennau Richard Hibbard a BJ Bothe ynghyd wedi sgrym gystadleuol.
Y llumanwr ddaeth â thacl Tipuric i sylw’r dyfarnwr ac roedd y penderfyniad i’w anfon i’r cell braidd yn amheus wrth ailedrych ar y digwyddiad. Roedd Tipurc i weld wedi taclo’r maswr ar i’w gefn a heb ei ollwng mewn modd peryglus na maleisus. Roedd y blaenasgellwr ei hun yn edrych yn syn wrth ymadael â’r maes.
Codi ysbryd
Llwyddodd Keatley ag ail gic cosb i godi ysbryd cefnogwyr selog Munster ac i sicrhau chwarter awr cyffrous ar ddiwedd y gêm. Amddiffyn cydnerth y Gweilch sydd wedi sicrhau sawl canlyniad iddynt yn barod a llwyddodd yr ymwelwyr i gadw Munster rhag sgorio eto. Sicrhaodd Biggar y fuddugoliaeth â chic gosb gyda chic ola’r gêm ar noson wych i’r Gweilch.
Mae eu mantais ar frig cynghrair y Pro 12 bellach yn chwe phwynt. Ond gyda thrip i Glasgow yn eu hwynebu pan ailymunwn ni â’r gynghrair ar yr 28 Hydref, mae tipyn o waith i’w wneud os yw’r Gweilch am sicrhau’r platfform gorau posib, cyn i’r sêr ailymuno â’r rhanbarth, pan ddaw Cwpan y Byd i ben.