Gary Speed
Mae’n bosib y bydd rhaid i Gary Speed chwilio am is-reolwr newydd, gydag awgrymu y gallai Raymond Verhaijen adael i ymuno ag un o dimau Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Verhaijen yn Estonia ar hyn o bryd yn hyfforddi at ei drwydded hyfforddi broffesiynol UEFA.
Tua 3 o’r gloch heddiw, fe roddodd neges ar ei gyfrif Twitter yn dweud ei fod yn gorfod ystyried ei ddyfodol o ddifrif wedi iddo dderbyn cynnig ‘da’ gan dîm yn yr Uwch Gynghrair.
“Dros y dyddiau nesaf mae’n rhaid i mi feddwl yn galed am ddeilema” meddai.
“Wedi cael cynnig da gan dîm mawr yn yr Uwch Gynghrair ond dydyn nhw ddim am ei gyfuno a Chymru.”
Er hynny, mewn neges yn fuan wedyn mae wedi dweud ei fod “am aros â Chymru.”
Mae Verheijen yn adnabyddus am ei ddefnydd o Twitter – fe gafodd ei hun mewn dyfroedd dyfnion am sylwadau yn ymwneud ag anaf i Gareth Bale cyn i Gymru herio Lloegr ym mis Mawrth.