Cymru 38 – 24 Iwerddon

Fe lwyddodd tîm dan 20 Cymru i guro Iwerddon ddoe gan sicrhau’r seithfed safle ym Mhencampwriaeth Rygbi Ieuenctid y Byd yn yr Eidal.

Cafwyd perfformiad o safon a pum cais gan dîm Richard Webster, gan sicrhau diweddglo da i bencampwriaeth siomedig.

Y canolwr, Lewis Robling oedd y cyntaf i sgorio gyda chais ar ôl chwarae da gan y Cymry. Methodd y maswr Mathew Morgan y trosiad, ond llwyddodd gyda chic gosb funudau’n ddiweddarach i roi Cymru 8-0 ar y blaen.

Roedd y Gwyddelod nôl yn y gêm yn fuan wedyn wrth i Andrew Conway durio a James McKinney drosi.

Er hynny, y Cymry ifanc reolodd weddill yr hanner cyntaf a sgoriodd y capten Macauley Cook a’r asgellwr Liam Williams gais yr un cyn i Iwerddon daro’n ôl gyda chais i Andrew Boyle cyn yr hanner.

Cadw momentwm

Wedi cic gosb yr un ym munudau agoriadol yr ail hanner, collodd Cymru eu maswr Mathew Morgan i’r gell cosbi am ddeg munud gan roi gobaith i’w gwrthwynebwyr.

Er hynny, cadwodd y Cymry eu pennau a hwy sgoriodd y cais nesaf – yr eilydd o glo Cory Hill yn croesi.

Y blaenasgellwr Thomas Young hawliodd gais olaf y cochion, gan goroni buddugoliaeth swmpus.

Tîm Cymru: Steve Shingler; Liam Williams, Iolo Evans (Dale Ford ‘62), Lewis Robling (Rheon James ‘9), Ross Jones, Matthew Morgan, Jonathan Evans (Lewis Jones ‘74), Will Taylor, Kirby Myhill, Will Griff John (Lewis Smout ‘66), Macauley Cook (c), Lloyd Peers (Cory Hill ‘53), Luke Hamilton (Owen Sheppeard ‘68), Thomas Young, Ben Thomas