Malky Mackay
Bydd Caerdydd yn cystadlu gyda Blackpool a Rangers am lofnod yr ymosodwr Albanaidd David Goodwillie.

Mae rheolwr newydd yr Adar Glas, Malky Mackay, yn awyddus i ychwanegu ymosodwr newydd yn dilyn ymadawiad Jay Bothroyd a Michael Chopra.

Mae Mackay yn credu mai chwaraewr ifanc y flwyddyn yr Alban yw’r dyn i sgorio’r goliau i Gaerdydd ac maen nhw’n awyddus i gychwyn trafod gydag ymosodwr Dundee Utd.

Ond mae Caerdydd yn wynebu brwydr am wasanaethau’r chwaraewr addawol, ar ôl i Rangers eisoes gysylltu gyda’r clwb ynglŷn â throsglwyddiad.

Mae Blackpool, sydd wedi disgyn ‘nôl i’r Bencampwriaeth yn dilyn un tymor yn yr Uwch Gynghrair, hefyd wedi cysylltu gyda Dundee Utd.

Ond mae’n debyg bod Dundee Utd yn awyddus i gael £2 miliwn am chwaraewr sgoriodd 19 gôl i’r clwb y tymor diwethaf.

Mae’r asgellwr Craig Conway eisoes wedi ymuno â Chaerdydd wrth Dundee Utd, ac fe allai hynny fod yn ffactor bwysig wrth berswadio Goodwillie i symud i’r brifddinas.

‘Argymell Caerdydd’

Mae cyn-chwaraewr Caerdydd, Willo Flood, sydd erbyn hyn yn chwarae i Dundee Utd, wedi dweud ei fod yn argymell i David Goodwillie ymuno â’r Adar Glas.

“Dw i’n argymell i Goodwillie ymuno â Chaerdydd. Mae’n glwb da ac fe fyddai yn mwynhau byw yno,” meddai Willo Flood wrth bapur y Daily Record.

“Mae gan Gaerdydd staff gwych i ofalu amdano.  Mae ganddynt stadiwm a chyfleusterau ymarfer newydd. Pe bai Caerdydd yn ennill dyrchafiad, fe ‘r wlad gyfan wrth eu bodd.”

Cyhuddiadau

Mae David Goodwillie wedi cael problemau oddi ar y cae ac mae’n wynebu cyhuddiad o ymosod yn dilyn digwyddiad gyda chyd-chwaraewyr Dundee Utd.  Bydd yn ymddangos o flaen y llys dydd Iau nesaf.

Mae’r Albanwr hefyd wedi ei gyhuddo o dresio menyw 24 oed mewn digwyddiad arall ond does dim dyddiad wedi ei osod ar gyfer ei ymddangosiad o flaen y llys eto.

Cryfhau’r garfan

Mae Mackay hefyd yn gobeithio cryfhau’r garfan ymhellach drwy arwyddo amddiffynnwr Middlesborough, Andrew Taylor.

Mae yna hefyd adroddiadau fod cyn-ymosodwr y clwb, Rob Earnshaw, hefyd ar restr Mackay.

Byddai’r Cymro yn gallu ymuno am ddim gan fod ei gytundeb â Nottingham Forest yn dod i ben dros yr haf.