Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas a Nicole Cooke wedi gorffen yn yr ail safle ym Mhencampwriaethau Rasys Ffyrdd Prydain yn Northumberland ddoe.
Methodd Thomas a dal ei afael ar y bencampwriaeth wrth i’w gyd aelod o Team Sky, Bradley Wiggins, orffen yn gyntaf.
Croesodd Wiggins 35 eiliad o flaen y Cymro i ennill y ras 122 milltir am y tro cyntaf yn ei yrfa ac fe fydd nawr yn cael yr hawl i wisgo’r crys Prydeinig yn y Tour de France.
Roedd Thomas, a enillodd y bencampwriaeth y llynedd, yn llawn canmoliaeth i berfformiad Bradley Wiggins.
“Roeddwn i wedi gobeithio amddiffyn y crys, ond allen i ddim fod wedi colli i well dyn,” meddai Geraint Thomas.
“Mae Bradley yn mynd i fod yn agos at y brig yn y Tour de France ac yn gobeithio sicrhau y fuddugoliaeth.”
Collodd Nicole Cooke i Lizzie Armistead, a enillodd y bencampwriaeth am y tro cyntaf.
Mae Nicole Cooke wedi ennill y goron cenedlaethol deg gwaith yn y gorffennol gan gynnwys buddugoliaeth dros Lizzie Armistead yn 2009.