Tripoli, Libya
Mae gwrthryfelwyr Libya wedi honni fod chwaraewyr a hyfforddwyr tîm pêl-droed rhyngwladol y wlad wedi ymuno â’r gwrthryfelwyr.

Maen nhw wedi wedi galw ar Muammar Gaddafi i gamu o’r neilltu ar ôl 42 mlynedd mewn grym, medden nhw.

Daw’r cyhoeddiad mewn fideo ar dudalen Facebook gwrthryfelwyr Libya heddiw, sy’n datgan fod y “tîm cenedlaethol wedi dweud eu bod nhw’n ymuno â’r ochor arall”.

Yn y fideo mae sawl dyn yn dweud eu bod nhw’n ymweld â gwrthryfelwyr ym mynyddoedd gorllewinol Nafusa y wlad i gynnig eu cefnogaeth.

“Rydyn ni’n cyhoeddi ein bod ni’n ymuno â’r chwyldro – nid o nawr ymlaen ond o’r dechrau,” meddai un.

“Gyda chymorth Duw, bydd Tripoli yn cael ei ryddhau. Fe fydd Libya yn rhydd, yn hwyr neu’n hwyrach,” meddai un arall.