Raymond Verheijen
Mae rheolwr cynorthwyol Cymru, Raymond Verheijen, wedi dweud nad yw’n bwriadu rhoi’r gorau i leisio’i barn ar wefan Twitter.

Achosodd yr Iseldirwr ddadl yr wythnos diwethaf gyda sylwadau dadleuol am ffitrwydd Gareth Bale.

Roedd rhai yn meddwl bod ei sylw am “amaturiaid di-glem” yn cyfeirio at staff meddygol Tottenham, ar ôl i dîm pêl-droed Cymru gyhoeddi fod Gareth Bale wedi’i anafu.

Ond fe fynnodd Verheijen mae gwneud sylw am yr adroddiadau anghywir yn y wasg ynglŷn â sefyllfa ffitrwydd Bale oedd pwrpas ei neges ar Twitter.

Fe gyfaddefodd rheolwr Cymru, Gary Speed, fod y dadlau wedi bod yn “gur-pen diangen.”

Dywedodd Speed na fydd Verhijen yn trafod materion mor sensitif yn gyhoeddus yn y dyfodol, ond mae’r Iseldirwr wedi dweud ei fod am barhau i drydar.

“Pan ddechreuais y swydd gyda Chymru, roedd pobl wedi’n rhybuddio ynglŷn â’r cyfryngau Prydeinig,” meddai Raymond Verheijen.

“Ond fe fyddai’n parhau i ddefnyddio Twitter.

“Mae’n rhaid i bobl allu dweud eu barn yn glir neu does dim pwynt dweud dim.  Mae’r un peth yn wir am gyfweliadau.

“Os nad ydych chi’n cynnig unrhyw beth ond ystrydebau does dim pwynt cynnal cyfweliad.”