Y Gweilch
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr rheng ôl Dreigiau Casnewydd, Joe Bearman, ar gytundeb dwy flynedd.

Bydd Bearman, sy’n gymwys i chwarae dros Gymru yn ymuno gyda’r Gweilch wedi pum mlynedd gyda’r Dreigiau.

Cyn ymuno gyda’r Dreigiau, roedd Bearman yn gapten ar y Cornish Pirates pan enillodd y tîm ddyrchafiad i’r Bencampwriaeth.

Mae Joe Bearman wedi dweud nad oedd yn gallu gwrthod y cyfle i chwarae gyda’r Gweilch.

“Dw i wedi mwynhau pum mlynedd dda gyda’r Dreigiau, ond roedd hi’n bryd symud ymlaen at her newydd,” meddai Joe Bearman.

“Roedd yna bedwar neu bump o gynigion da iawn ar fy nghyfer i ond y Gweilch oedd wedi creu’r argraff fwyaf.

“Mae gan y tîm rheoli cynllun clir, ac mae ganddynt lawer o dalent ifanc yn chwarae iddyn nhw hefyd. Mae gen i lawer iawn o brofiad ac fe allai hynny fod o gymorth mewn carfan ifanc.”

Croesawodd Cyfarwyddwr Perfformiad y Gweilch, Andrew Hore, y newyddion gan ddweud fod gan Joe Bearman enw da am weithio’n galed.

“Fe fydd ei brofiad yn ased enfawr i’r Gweilch. Mae Joe yn arwain trwy esiampl ac mae ganddo’r nodweddion yr ydym ni eu heisiau,” meddai Andrew Hore.