Y Cae Ras - ynghanol 'syrcas y cyfryngau'
Wrecsam 1 Casnewydd 0
Mae cyfarwyddwyr clwb pêl-droed Wrecsam wedi ymddiheuro i’r cefnogwyr am “syrcas y cyfryngau” sydd, medden nhw, yn eu hamgylchynu.
Mewn datganiad, fe ddywedson nhw eu bod yn derbyn peth o’r cyfrifoldeb am hynny ond, oherwydd y trafferthion, fyddan nhw ddim yn gwneud rhagor o ddatganiadau am y tro.
Fe ddaeth yn amlwg bod Wrecsam bellach wedi colli’r hawl i brynu chwaraewyr newydd, oherwydd biliau sydd heb eu talu. A does dim ateb clir eto i ddyfodol y clwb wrth i’r cyfarwyddwyr chwilio am brynwyr.
Curo Casnewydd
Ond mae pethau’n parhau’n llewyrchus ar y cae, gyda’r Cochion yn curo Casnewydd yn y ddarbi Gymreig.
Gôl drawiadol gan Amdy Mangan oedd y gwahaniaeth – foli o bell ar ôl 74 munud, a honno’n dod yn syth o dafliad.
Mae’n golygu bod Wrecsam yn aros yn bedwerydd yng Nghynghrair Blue Square, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Luton Town, sy’n drydydd ac wedi chware tair gêm yn llai.
Maen nhw bedwar pwynt o flaen Kidderminster a chwech o flaen Fleetwood yn y ras i gadw’u lle yn y chwech ucha’ a’r gêmau ail gyfle i gyrraedd y Gynghrair go iawn.