Scarlets 22 Benetton Treviso 16
Fe fydd gan y Scarlets gêm anferth yn erbyn Ulster ddiwedd yr wythnos wrth iddyn nhw wneud ymdrech funud ola’ i geisio cyrraedd pedwar ucha’ Cynghrair Magners.
Er eu bod wedi curo Benetton Treviso, fe fethodd y Scarlets â manteisio’n llawn a chipio pwynt bonws.
Ar un adeg, chwe munud i mewn i’r ail hanner, roedden nhw 22-6 ar y blaen ond fe adawson nhw’r Eidalwyr yn ôl i mewn i’r gêm.
Roedd angen un cais arall arnyn nhw i gael y pwynt ychwanegol – mae eu methiant yn golygu eu bod bum pwynt y tu ôl i Ulster a’r Gweilch, sy’n drydydd a phedwerydd.
Ar hyn o bryd, tri o dîmau’r Gwyddelod sydd ar y brig gyda dim ond un tîm Cymreig yn y safleoedd i gyrraedd y rownd cwpan ar y diwedd.
Y gêm
Jonathan Davies - cais ola'r Scarlets
Di-siâp braidd oedd dechrau’r gêm gyda’r ddau dîm yn ildio meddiant cyn i Treviso fynd ar y blaen o 3-0. Fe gafodd Stephen Jones gic gosb i wneud pethau’n gyfartal cyn i Jonathan Edwards cael y cais cynta’ i’r Cymry.
Gyda throsiad gan Jones a chais i’r mewnwr Tavis Knoyle, o fewn munudau i ddod ar y cae, roedd y Scarlets ar y blaen o 17-6 ar yr hanner.
O fewn munudau, roedd pethau’n well byth wrth i’r canolwr, Jon Davies, gario’i daclwr tros y lein i sgorio.
Ond dyna sgôr ola’r Scarlets – yn ôl yr hyfforddwr, Nigel Davies, roedden nhw’n falch o’r fuddugoliaeth ond yn siomedig am golli’r pwynt bonws.