Grzegorz Sandomierski
Bydd rhaid i Abertawe dalu hyd at £3miliwn i Middlesbrough os ydyn nhw am ddenu Leroy Lita i Stadiwm y Liberty.

Roedd adroddiadau ddoe bod yr Elyrch wedi gwneud cynnig llawer is, gwerth tua £500,000, am yr ymosodwr.

Er bod Lita ar restr targedau Brendan Rodgers, mae’n debygol y bydd amcan bris ei glwb presennol yn ei ddychryn, yn enwedig o ystyried ei fod eisoes wedi gwario £3.5miliwn ar ymosodwr arall, Danny Graham.

Brwydro am Bertrand

Mae Rodgers yn parhau i frwydro am lofnod cefnwr chwith Chelsea, Ryan Bertrand.

Mae rheolwr yr Elyrch wedi bod yn awyddus i arwyddo’r chwaraewr addawol ar fenthyg am dymor ers peth amser, ond mae nifer o dimau eraill â diddordeb yn y chwaraewr sydd yn nhîm dan 21 Lloegr.

Collodd tîm dan 21 Lloegr eu gêm Pencampwriaeth Ewrop yn erbyn y Weriniaeth Siec ddydd Sul, gan olygu eu bod allan o’r gystadleuaeth, a thanio’r frwydr am lofnod Bertrand.

Wolves ydy’r tîm diweddaraf i ddangos diddordeb yn y cefnwr ifanc, sy’n gyfarwydd iawn i Rodgers ers ei gyfnod fel rheolwr tîm ieuenctid Chelsea.

Mae Abertawe yn ffefrynnau i arwyddo un arall o chwaraewyr tîm dan 21 Lloegr hefyd, sef Steven Caulker o Tottenham Hotspur. Mae disgwyl iddyn nhw gwblhau’r trosglwyddiad nawr bod y tîm wedi dychwelyd o Ddenmarc.

Golygon ar olwr

Gyda’r dyfalu am ddyfodol golwr Abertawe, Dorus de Vries yn parhau, mae golygon Brendan Rodgers wedi troi at olwr ifanc o Ddwyrain Ewrop i lenwi ei esgidiau.

Mae Grzegorz Sandomierski, sy’n 21 oed, yn uchel iawn ei barch ac mae llun o glybiau mawr Ewrop gan gynnwys Juventus, Inter Milan, Man Utd a Man City wedi bod yn cadw golwg arno.

Mae’r golwr ifanc yn chwarae i glwb Jagiellonii Bialystok ac mae hefyd wedi bod yn ddewis cyntaf i dîm cenedlaethol Gwlad Pwyl yn ddiweddar.

Yn ôl llefarydd ar ran Jagiellonii Bialystok, mae’r clwb wedi derbyn cynnig gan yr Elyrch.

“Dydd Llun, fe dderbynion ni gynnig cadarn gan Abertawe. Maen nhw wedi bod yn benderfynol i brynu Grzesiek ers rhai wythnosau” meddai wrth y papur newydd Pwylaidd Przeglad Sportowy.