Brendan Rodgers
Mae Middlesbrough wedi gwrthod cynnig gan Abertawe am eu hymosodwr Leroy Lita.

Er gwaethaf cwblhau trosglwyddiad Danny Graham am £3.5 miliwn yr wythnos ddiwethaf, mae Brendan Rodgers dal yn awyddus i gryfhau ei ymosod.

Yn ôl adroddiadau, roedd yr Elyrch wedi gwneud cynnig o lai na £1 miliwn am gyn ymosodwr Reading.

Roedd y swm yn sylweddol llai na’r hyn mae Boro yn credu yw gwerth Lita, a sgoriodd 12 o goliau yn y Bencampwriaeth llynedd.

Er hynny, gan fod Middlesbrough yn awyddus i dorri eu costau, mae’n debygol y byddan nhw’n barod i wrando ar gynigion gwell.

Emnes yn darged

Mae lle i gredu bod gan Brendan Rodgers ddiddordeb mewn chwaraewr arall o Boro hefyd, sef yr asgellwr Marvin Emnes.

Treuliodd yr asgellwr o’r Iseldiroedd gyfnod llwyddiannus ar fenthyg â’r Elyrch llynedd, gan sgorio dwy gôl mewn pedwar ymddangosiad – un o’r goliau’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Caerdydd.

Roedd Rodgers yn awyddus i ymestyn cyfnod benthyg y chwaraewr bryd hynny, ond i reolwr Middlesbrough, Tony Mowbray wrthod caniatáu hynny.

Mae gan Mowbray feddwl mawr o Emnes felly mae disgwyl iddo ymladd i’w gadw yng ngogledd Lloegr.

Dyfalu am de Vries

Mae rheolwr Abertawe ar y llaw arall yn ymladd i gadw gafael ar ei gôl-geidwad.

Mae cytundeb Dorus de Vries yn dod i ben y mis yma, ac er bod Abertawe’n awyddus i’w ymestyn dyw’r Iseldirwr heb arwyddo’r cynnig maen nhw wedi gwneud.

Y gred yw bod Wolves ymysg y clybiau sy’n awyddus i arwyddo’r gŵr a lwyddodd i beidio ildio gôl mewn  24 o gemau Abertawe llynedd.

“Mae llawer o dimau sydd â diddordeb yn Dorus ac mae Wolves yn un ohonyn nhw” meddai ei asiant, Arnold Oosterveer.

“Mae Dorus ar wyliau ar hyn o bryd. Fe fydd yn ôl penwythnos nesaf.”

“Rydym ni wedi derbyn cynnig olaf Abertawe felly byddwn ni’n gwneud penderfyniad ar ôl iddo ddod nôl.”