Craig Conway yn lliwiau Dundee United
Mae’n ymddangos bod Caerdydd wedi ennill y ras i arwyddo asgellwr Dundee United Craig Conway.
Roedd cystadleuaeth frwd am lofnod y chwaraewr rhyngwladol, gyda Chaerdydd a Rangers yn ogystal â llu o dimau eraill o Bencampwriaeth Lloegr yn brwydro i’w arwyddo.
Yn ôl y BBC, mae Conway wedi dweud heddiw ei fod wedi cytuno ar delerau gyda Chaerdydd.
“Fe wnaeth Malky Mackay greu argraff dda iawn arna’i pryd gwnes i gwrdd ag o yn Watford” meddai Conway wrth BBC Scotland.
Bu asiant y chwaraewr Mark Daneg yn trafod â Rangers wythnos diwethaf, ond ni ddaeth cynnig gan y clwb.
Mae Conway’n chwaraewr bywiog sydd â’r gallu i sgorio goliau. Mae’n gallu chwarae ar y ddwy asgell ac felly’n gaffaeliad i Gaerdydd sydd â thipyn o waith ailadeiladu i’w wneud.
Mae disgwyl i’r Albanwr gwblhau’r trosglwyddiad ar ôl cael profion meddygol yng Nghaerdydd.