Adam Jones
Mae Warren Gatland wedi dweud wrth Adam Jones ei fod mewn perygl o golli ei le yn nhîm Cymru os nad yw’n colli pwysau erbyn Cwpan Rygbi’r Byd Seland Newydd.
Mae hyfforddwr Cymru wedi cynhyrchu graff sy’n dangos bod y blaenwr yn taclo’n llai aml wrth i’w bwysau gynyddu.
“Rydw i’n gobeithio fod Adam wedi bod yn hyfforddi a bod ei bwysau yn iawn ac y byddwn ni’n gallu ei gadw yn y sgwad,” meddai Gatland wrth bapur newydd y Western Mail.
“Mae yn gwybod ei fod yn mynd i gael ei anfon yn ôl adref os yw’n cyrraedd a’i fod yn rhy dew.”
Dywedodd Warren Gatland fod Craig Mitchell wedi gwneud yn dda pan nad oedd Adam Jones ar gael yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Fe gafodd ymgyrch wych ac mae’n braf cael rhagor o ddyfnder yn y sgwad,” meddai Gatland.
Dywedodd pennaeth ffitrwydd Undeb Rygbi Cymru, Adam Beard, y byddai rhaid i Adam Jones basio prawf ar 30 Mehefin cyn cael ei gynnwys yn y sgwad.
Ychwanegodd ei fod wedi rhoi gwaith cartref i Adam Jones, Gavin Henson a Shane Williams dros gyfnod yr haf.
“Does dim cyfle i’r un ohonyn nhw orffwys. Os ydyn nhw’n gwneud hynny, ni fydd yna ail gyfle,” meddai.
“Pan maen nhw’n cyrraedd fe fydd yna brawf i weld a ydyn nhw’n ddigon iach i fynd i’r gwersyll hyfforddi yng Ngwlad Pwyl.
“Os nad ydyn nhw’n mynd i Wlad Pwyl mae’n annhebygol eu bod nhw am gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd.”