Rhys Williams
Roedd penwythnos cyffrous o athletau yng Nghaerdydd, wrth i sawl athletwr ifanc greu argraff ym Mhencampwriaethau Athletau Cymru.

Prif stori’r diwrnod cyntaf oedd y neidiwr polyn Sally Peake a lwyddodd i dorri record Gymreig y gamp.

Neidiodd Peake, sy’n 25 oed, uchder o 4.30m – sy’n ddigon i ennill lle iddi yng Ngemau Prifysgolion y Byd.

Safon Parry’n parhau

Un arall a dorrodd record oedd y daflwraig gordd, Carys Parry. Cipiodd Parry’r fedel arian yng Ngemau’r Gymanwlad llynedd, ac roedd ei thafliad o 63.01m ddydd Sadwrn yn record stadiwm newydd.

Un arall i ddal y llygad oedd y rhedwr 800m Joe Thomas. Penderfynodd Thomas gystadlu yn y 400m yng Nghaerdydd gan gipio buddugoliaeth mewn 47.25 munud.

Williams yn serennu

Rhys Williams oedd y seren ar yr ail ddiwrnod, a hynny mewn camp anghyfarwydd i’r rhedwr 400m dros y clwydi.

Dewisodd Williams redeg y ras 200m, gan ennill mewn amser o 21.85.

Seren cystadlu’r merched oedd Rachel Johncock o Fae Colwyn a gipiodd ras y 200m.

Roedd hi eisoes wedi ennill y 100m y diwrnod blaenorol, ac fe gwblhaodd y dwbl gydag amser o 24.33 i gadarnhau potensial enfawr y ferch 17 mlwydd oed.

Un arall a sicrhaodd ddwbl oedd Caryl Granville gan ennill y 400m a 100m dros y clwydi. Fe gyflawnodd Paul Bennet yr un gamp yn y ddwy ras dros y clwydi i’r dynion.

Cystadleuaeth Gymreig yn gam sylfaenol

Pwysleisiodd Rhys Williams bwysigrwydd y Pencampwriaethau Cymreig ar ôl ei ras.

“Mae’r 200m yn help mawr i mi wrth hyfforddi cyflymder, ro’n i’n gwybod y bydden i’n cael ras dda,” meddai Williams ar ôl ei fuddugoliaeth.

“Dwi wrth fy modd yn rhedeg yn y Pencampwriaethau Cymreig gan eu bod yn gam sylfaenol ar y llwybr i bethau mwy, a dwi’n gobeithio bod presenoldeb athletwyr sefydledig yn helpu ysbrydoli rhai ifanc.”

Enillwyr eraill:

100m i ddylion: Wyn Roberts (Harriers Abertawe) – 10.99

1500m i ddynion: Adam Bitchell (C.A. Caerdydd) – 3:54.52

800m i ferched – Amanda Moss (C.A. Caerdydd) 2:13.61

800m i ddynion – Rhys Smith (Sale Harriers) – 1:51.38

1500m i fercher: Carol Glover (Harriers Abertawe) – 4:30.22

Taflu gwaywffon i ddynion: Ryan Spencer-Jones (Birchfield Harriers) – 16.91m

Naid hir i ferched: Lara Richards (A.D. Marathon) – 6.10m

Naid hir i ddynion: Richardo Childs (C.A. Aberhonddu) – 7.48m

Taflu gordd i ddynion: Matthew Richards (Belgrave Harriers) – 63.68m

Taflu gwaywffon i ferched: Lianne Clarke (C.A. Caerdydd) – 52.26m

Taflu gwaywffon i  ddynion: Lee Doran (C.A. Dinas Sheffield) – 70.90m

Naid Uchel i Ferched: Ffion Bodilly (C.A. Caerdydd) – 1.68m

Naid Driphlyg i ferched – Imogen Miles (C.A. Caerdydd) – 11.79m

Naid Bolyd i ddynion: Paul Walker (C.A. Myfyrwyr Loughborough) – 5.21m