Jari Litmanen
Mae timau Cymru’n wyneb tipyn o her os ydyn nhw am gamu ymlaen i rowndiau nesaf eu cystadlaethau Ewropeaidd eleni.

Fe gafodd y gemau eu trefnu yn Nyon ddoe, a bydd Bangor yn herio’r tîm sydd ar frig prif adran y Ffindir ar hyn o bryd, HJK Helsinki.

Fe fydd tîm Nev Powell yn teithio i’r Ffindir am y drydedd flwyddyn yn olynol. Colli 3-0 dros y ddau gymal oedd eu hanes yn erbyn Honko Espoo ddwy flynydd yn ôl, ond llwyddodd Bangor i’w curo o 3-2 dros y ddwy gêm llynedd.

Cewri’r Ffindir

HJK Helsinki ydy tîm mwyaf y Ffindir, ac maen nhw wedi ennill cynghrair y wlad 22 o weithiau.

Nhw ydy’r unig dîm o’r Ffindir sydd wedi llwyddo i gyrraedd cymal grwpiau Cynghrair y Pencampwyr – fe wnaethon nhw hynny yn nhymor 1998 – 99 gan ennill 5 pwynt yn y broses.

Mae chwaraewr enwocaf y wlad, Jari Litmanen, gynt o Ajax, Barcelona a Lerpwl yn chwarae i’r tîm ar hyn o bryd.

Fe fydd Bangor yn teithio i stadiwm Sonera ar 12/13 Gorffennaf, cyn chwarae’r ail gymal yng Nghymru ar 19/20 Gorffennaf.

Cwpan Europa

Yn rownd ragbrofol Cwpan Europa, fe fydd Y Seintiau Newydd yn wynebu Cliftonville o’r Gynghrair Wyddelig, tra bod Castell Nedd yn herio FK Aalesund  o Norwy.

Yn eironig, fe chwaraeodd y Seintiau gêm gyfeillgar yn erbyn Cliftonville wythnos diwethaf, gan golli 2-1 mewn gêm agos.

Bydd tasg anodd yn wynebu Castell Nedd yn eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop – mae Aalesunds Fotballklubb yn drydydd yn Uwch Gynghrair Norwy, y Tippeligaen, ar hyn o bryd.

Bydd Castell Nedd yn chwarae oddi cartref gyntaf ar 30 Mehefin, tra bod Y Seintiau adref ar yr un dyddiad. Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae wythnos yn ddiweddarach ar 7 Gorffennaf.

Fe fydd Llanelli’n ymuno a’r gystadleuaeth yn yr ail rownd, ac yn herio un ai Dinamo Tbilisi o Georgia neu FC Milsami Orhei o Moldofa.