Bydd rhaid i gefnogwyr tîm rygbi Cymru wylio eu gemau yn erbyn Lloegr ym mis Awst ar Sky.

Doedd S4C a’r BBC ddim yn cael gwneud cais am yr hawl i ddangos y gemau, ar ôl i Sky sicrhau cytundeb i ddangos bob un o gemau Lloegr heblaw am rai Cwpan Rygbi’r Byd a’r Chwe Gwlad.

Bydd Cymru a Lloegr yn chwarae ei gilydd ddwywaith o fewn wythnos, yn Twickenham ar 6 Awst ac yna yng Nghaerdydd ar 13 Awst.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n falch iawn ar ôl sicrhau’r cytundeb â Sky.

“Mae Undeb Rygbi Cymru yn hapus i gael cyhoeddi y bydd Sky yn darlledu’r ddwy gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr ym mis Awst,” meddai’r undeb.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau cytundeb pwysig â Sky. Cafodd gêm Cymru yn Seland Newydd hefyd ei ddarlledu ar Sky ac rydyn ni wedi arfer darparu ar gyfer y darlledwr mewn gemau eraill yn Stadiwm y Mileniwm.”

Bydd y gêm yn erbyn yr Ariannin ar 20 Awst ar y BBC, a bydd Cwpan Rygbi’r Byd ar ITV a S4C.