Doedd “dim bwriad” gan Hal Robson-Kanu anafu ei wrthwynebydd wrth iddo ddefnyddio’i benelin yn ystod y gêm rhwng West Brom a Burnley, meddai’r Cymro.
Gwelodd yr ymosodwr y cerdyn coch am daro Matthew Lowton ar ôl sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr ddoe.
Aeth y ddau chwaraewr i’r awyr am y bêl, ac fe aeth braich Hal Robson-Kanu am ben ei wrthwynebydd.
Cafodd ei anfon o’r cae er nad oedd e wedi gweld y cerdyn melyn cyn hynny.
Eglurhad
Yn dilyn y digwyddiad, eglurodd Hal Robson-Kanu ar ei dudalen Instagram neithiwr nad oedd e wedi bwriadu taro Matthew Lowton.
Dywedodd nad oedd yn “fwriadol, a gobeithio y bydd hynny’n cael ei weld”.
Dywedodd y rheolwr Tony Pulis y byddai’n rhaid iddo weld y digwyddiad eto cyn penderfynu a fyddai’n apelio yn erbyn y cerdyn coch.
Serch hynny, dywedodd rheolwr Burnley, Sean Dyche fod y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir.
“Roedd rhaid i’r [cerdyn] coch gael ei ddangos, yn sicr. Mae’r penelin yn mynd i mewn yn hwyr, dw i’n ddim yn credu ei fod yn faleisus… ond mae’n dal i fod yn benelin yn ei wyneb.