Mae 12 o longau hwylio yn paratoi i adael Lerpwl ar ddechrau ras o amgylch y byd.
Bydd 712 o hwylwyr amatur yn cymryd rhan yn y ras fydd yn cael ei chynnal dros bellter o 40,000 o filltiroedd morol.
Bydd y ras yn dechrau heddiw yn Noc Albert y ddinas, a bydd yr hwylwyr yn cael eu harwain gan 12 o gapteiniaid ar gyfer yr unfed ras ar ddeg o’i math.
Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i’r doc i wylio dechrau’r ras.
Bydd y llongau’n teithio ar hyd afon Mersi cyn dechrau taith 35 niwrnod i Wrwgwai, y cymal hwyaf yn hanes y ras.
Bydd y ras yn ymweld â Seattle, Cape Town a Qingdao, gan ddychwelyd i Lerpwl ar Orffennaf 28 y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Maer Lerpwl, Joe Anderson fod y ras yn “mynd â brand Lerpwl ar draws y byd”.
Cafodd y ras ei sefydlu gan Robin Knox-Johnston.
Peryglon
Ond gall y ras fod yn beryglus, gyda nifer o bobol wedi marw yn ystod y cymal cyntaf.
Yn 2015, bu farw Andrew Ashman, 49 o Swydd Gaint, ar ôl cael anafiadau i’w wddf.
Fis Ebrill y llynedd, cafodd Sarah Young, 40 o Lundain, ei thaflu i’r Môr Tawel.