Tommie Collins sy’n pwyso a mesur y tymor i ddod i Abertawe…
Bydd cefnogwyr Abertawe yn gobeithio am dymor o sefydlogrwydd ar ôl eu trafferthion tymor diwethaf.
Francesco Guidolin roedd y rheolwr dechrau tymor diwethaf cyn i’r Americanwr Bob Bradley cymryd yr awenau ar ôl dechrau sâl i dîm yr Eidalwr.
Roedd Bob Bradley ddim yn ffefryn nifer o’r cefnogwyr ac ar ôl 85 diwrnod cafodd ei ymddiswyddo.
Sylwadau cyn-chwaraewr
Paul Clement cafodd y dasg o gadw’r Elyrch yn yr Uwchgynghrair ac y nôl y cyn chwaraewr y clwb, Owain Tudur Jones, oedd dim llai na gwyrth yn be wnaeth Clement cyflawni i gadw’r Elyrch i fyny.
“Roedd y clwb mewn trafferth cyn i Clement cyrraedd a newidiodd o’r awyrgylch i gyd. Bydd y cefnogwyr ddim eisiau hunllef fel na eto. Meddai wrth Golwg360.
“Eto maen na chwmwl wedi bod dros y Liberty haf yma oherwydd sefyllfa Gylfi Sigurdsson. Tydi sefyllfa fel ma’ ddim yn dda i neb , y clwb y chwaraewr ar gefnogwyr, mi ddyla’ dyfodol Sigurdsson wedi cael ei sortio erbyn rŵan.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld Tammy Abraham yn y crys gwyn. Cafodd tymor gwych gyda Bryste yn y bencampwriaeth gan sgorio 21 gôl mewn 43 ymddangosiad. Dipyn o gamp ar unrhyw lefel. Mae wedi arwyddo cytundeb newydd pum mlynedd gyda Chelsea, mae hunan dangos bod ganddynt hwy dipyn o feddwl ohono.
“Dwi obeithio gweld Leon Britton yn chwarae rhan tymor yma, mae Britton yn arwr i’r cefnogwyr a’n sicr mae ei ddylanwad ar y cae neu yn yr ystafell newid yn hanfodol. Mae’n codi ysbryd y cefnogwyr maen nhw’n eu haddoli.
“Rwy’n sicr hefyd bod angen un neu ddau o chwaraewyr eraill i greu cystadleuaeth yn y garfan a wneud yn siŵr bod pawb yn tynnu at ei gilydd i sicrhau tymor gwell.”