Borja yn chwarae yn Sbaen cyn symud i Abertawe
Mae Borja Baston wedi dweud ei fod yn awchu am ragor o goliau, ar ôl darganfod cefn y rhwyd am y tro cyntaf yn Stadiwm Emirates brynhawn dydd Sadwrn.

Collodd Abertawe o 3-2 oddi cartref yn Arsenal wrth i’r rheolwr newydd Bob Bradley arwain y tîm am y tro cyntaf.

Sgoriodd Borja ail gôl yr Elyrch ar ôl 66 munud i roi llygedyn o obaith iddyn nhw yn y munudau olaf.

Fe fydd yr Elyrch yn herio Watford yn Stadiwm Liberty y penwythnos nesaf, ac mae Borja yn ysu i sgorio unwaith eto.

“Dw i’n hapus iawn ar ôl sgorio fy ngôl gyntaf i Abertawe yn yr Uwch Gynghrair. Roedd yn bas dda iawn gan Modou [Barrow], a wnaeth yn dda iawn.

“Mae’n dda ar gyfer hyder ymosodwr i gael ei gôl gyntaf mor fuan â phosib – nawr dw i’n gobeithio mai hon yw’r gyntaf o blith nifer i’r clwb.

“Gobeithio fy mod i wedi gwneud digon i greu argraff ar y rheolwr a dangos iddo beth alla i wneud dros y tîm.

“Byddai’n wych i fi gael chwarae yn erbyn Watford yr wythnos nesaf a gobeithio sgorio eto i helpu’r tîm i ennill.”

Fe ategodd sylwadau Bob Bradley fod arwyddion addawol yn y gêm yn erbyn Arsenal, er iddyn nhw ddisgyn i bedwerydd ar bymtheg yn y tabl yn dilyn y canlyniad.

Maen nhw bellach wedi ennill pedwar pwynt yn eu wyth gêm gyntaf.