Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn wynebu aelodau seneddol ddydd Llun i egluro’r broses wnaeth arwain at benodi Sam Allardyce yn rheolwr ar dîm cenedlaethol Lloegr, yn ôl y Telegraph.

Fe fydd cadeirydd y Gymdeithas, Greg Clarke yn cael ei holi am y camau a gafodd eu cymryd wrth benderfynu penodi rheolwr sydd wedi’i amau o ddrwgweithredu yn y gorffennol.

Mae disgwyl i Clarke gael rhybudd gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan nad yw’r Gymdeithas yn llwyddo i gadw trefn ar y byd pêl-droed yn Lloegr. 

Bu’n rhaid i Allardyce ymddiswyddo ddechrau’r mis ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi cynghori unigolyn ynghylch sut i osgoi rheolau trosglwyddo chwaraewyr y Gymdeithas.

Fe ymddiheurodd ar ôl i’r sgwrs ddod i’r amlwg.

Yn y rhaglen ddogfen ‘Panorama’ yn 2006, dywedodd asiant ei fod e wedi rhoi arian i Allardyce ac fe ddywedodd asiant arall ei fod e wedi rhoi arian i fab Allardyce i drefnu trosglwyddiadau’n anghyfreithlon.

Roedd Allardyce a’i fab wedi gwadu’r honiadau.

Mewn ymchwiliad gan yr heddlu yn ddiweddarach, awgrymon nhw fod y cydweithio rhwng Sam a Craig Allardyce yn gyfystyr â gwrthdaro buddiannau, ond wnaethon nhw ddim cymryd camau yn eu herbyn.

Bydd yr aelodau seneddol yn gofyn a oedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn fodlon na fyddai Allardyce yn achosi embaras iddyn nhw yn sgil yr honiadau newydd a’r rhai yr oedden nhw eisoes yn ymwybodol ohonyn nhw.

Yn ôl ymchwiliad y Telegraph, mae wyth rheolwr yn Uwch Gynhrair Lloegr wedi’u hamau o ddrwgweithredu’n ariannol.