Mae’r pêl-droediwr Ched Evans wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar ei deulu ac nid y byd pêl-droed ar ôl i lys ei ganfod yn ddieuog o dreisio merch 19 oed mewn gwesty yng Nghaer.
Cafwyd ymosodwr Chesterfield, sy’n 27 oed, yn euog o dreisio’r ferch yn y Premier Inn yn Y Rhyl, a’i garcharu am bum mlynedd.
Fe dreuliodd ddwy flynedd a hanner dan glo.
Ond cafodd yr euogfarn ei gwyrdroi yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon.
Mae gan Evans a’i ddyweddi Natasha Massey fab naw mis oed.
Dywedodd Evans wrth y Sunday Times: “Dydy hyn erioed wedi bod amdanaf fi fel pêl-droediwr, ond fel person.
“Tad sydd am fynd â’i fab i’r parc gan wybod na all unrhyw un edrych arna i a dweud ’mae e’n dreisiwr’.
“O’r diwrnod cyntaf, byddwn i wedi cytuno i beidio â chicio’r un bêl arall yn gyfnewid am bobol yn derbyn nad oeddwn i’n dreisiwr.”
Yn 2011, aeth Evans i’r gwely gyda’r ferch a’i ffrind Clayton McDonald.
Dywedodd fod ei ymddygiad y noson honno’n “annerbyniol” ond nad oedd e wedi cyflawni trosedd, ac nad yw’n teimlo “casineb” tuag at y ferch, gan awgrymu nad oedd hi erioed wedi ei gyhuddo o dreisio, ond bod yr heddlu wedi rhoi pwysau arni i ddwyn achos yn ei erbyn.
Dywedodd hefyd nad yw’n cefnogi’r rheiny sydd wedi sarhau’r ferch ar wefannau cymdeithasol.