Mae rowndiau cyntaf Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her Ewrop yn digwydd y penwythnos hwn gyda’r timau’n gobeithio mynd yr holl ffordd at y rowndiau terfynol yn Murrayfield yng Nghaeredin fis Mai nesaf.

Bydd pum enillydd pob grŵp yn y ddwy gystadleuaeth yn sicrhau eu lle yn y chwarteri ynghyd â’r tri gorau ddaeth yn ail.

Cwpan Pencampwyr Ewrop

Y Scarlets yw’r unig ranbarth o Gymru sydd wedi ennill lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop eleni ac mae ganddyn nhw fynydd i’w ddringo os am gyrraedd y chwarteri.

Maen nhw yn Grŵp 3 gyda’r tîm Ffrenig Toulon a phencampwyr y gystadleuaeth y llynedd, Saracens.

Bydd y Scarlets yn croesawu un arall o dimau Lloegr sy yn y grŵp, Sale Sharks, i Barc y Scarlets yfory gyda’r canolwr Jonathan Davies nôl yn y tîm. Ond bydd angen i Fois y Sosban gael buddugoliaeth yn eu holl gemau cartref os am unrhyw gyfle o fynd ymhellach yn y gystadleuaeth.

Cwpan Her Ewrop

Mae’r Gweilch, y Dreigiau a’r Gleision yn cystadlu yng Nghwpan Her Ewrop eleni.

Mae’r Gweilch yn Grŵp 2 gyda Newcastle, Grenoble a Lyon. Ar bapur, dylai’r Gweilch, gyda’u casgliad o chwaraewyr rhyngwladol, orffen ar frig y grŵp ond bydd yn rhaid iddyn nhw brofi eu hunain oddi cartref er mwyn gwarantu lle yn y chwarteri.

Bydd y Gweilch yn chwarae adref yn erbyn Newcastle heno gyda Dan Biggar yn cymryd lle Sam Davies fel maswr a’r blaenasgellwr Dan Lydiate yn dechrau ei gem gynta’r tymor hwn.

Mae’r Dreigiau yn Grŵp 3 gyda Brive,  Caerwrangon a’r tîm o Rwsia, Enisei-STM. Bydd taith y Dreigiau i Rwsia y mis hwn yn un anodd ond yn gyntaf bydd yn rhaid iddyn nhw drechu Brive, sy’n edrych fel y tîm cryfaf ar hyn o bryd, yn Rodney Parade y penwythnos hwn.

Mae’r Gleision wedi cael dechrau da i’r tymor ac maen nhw yn Grŵp 4 gyda Chaerfaddon, Bryste a Phau. Mae hi’n debygol mai ras rhwng Caerfaddon a’r Gleision fydd hi i gipio’r safle cyntaf gyda’r canlyniad o bosibl yn cael ei benderfynu gan gemau olynol rhyngddynt ym mis Rhagfyr.

Bydd y Gleision yn teithio i Fryste heno ac maen nhw wedi gwneud wyth newid i’r tîm ers cael eu trechu 46-24 gan y Gweilch y penwythnos diwethaf.