Bob Bradley
Mae rheolwr newydd Abertawe, Bob Bradley wedi lladd ar lefelau ffitrwydd y tîm o dan ei ragflaenydd, Francesco Guidolin.

Cafodd yr Eidalwr ei ddiswyddo ddechrau’r mis ar ôl sicrhau pedwar pwynt yn unig o’r saith gêm agoriadol – record sy’n eu gadael yn 17fed yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ôl Bob Bradley, roedd yr Elyrch wedi mynd ar gyfeiliorn yn ystod y sesiynau ymarfer, ond dydy hi ddim yn rhy hwyr i wyrdroi hynny.

“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn hynod barchus tuag at Francesco. Ond dw i’n credu y byddech chi’n gweld eu bod nhw’n teimlo bod yr hyfforddiant wedi mynd ar gyfeiliorn rywfaint.”

Fe allai sylwadau Bradley egluro rhwystredigaeth amlwg Neil Taylor wrth iddo gael ei eilyddio yn y gêm yn erbyn Chelsea, ac ailadrodd y digwyddiad rai gemau’n ddiweddarach gyda’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng.

Ond mae Bob Bradley wedi dweud bod ei benodiad yn cynnig cyfle i’r chwaraewr gael dechrau ffres i’r tymor a brwydro o’r newydd am eu lle yn y tîm.

“Felly pan dw i’n siarad am yr ymateb da mor belled, dw i’n credu bod y ffordd dw i’n gwneud yr ymarfer a’r syniadau gwahanol sydd gyda fi’n ffitio i mewn i’r ffordd mae angen gwneud pethau.

“Fy nheimlad i yw fod y min, y ffitrwydd ychwanegol a’r cyflymdra wedi gostwng ychydig.

“Ry’n ni’n gweithio’n galed i ail-sefydlu’r sesiynau ymarfer sydd yn mynd i gael hynny’n ôl i lefel dda iawn.”

Staff

Mae adroddiadau’r wythnos hon yn awgrymu bod Abertawe ar fin penodi’r hyfforddwr ffitrwydd Pierre Barrieu, fu’n gweithio â Bob Bradley yn y gorffennol.

Ac mae’r hyfforddwr newydd yn cydnabod fod gweithio ar y lefel uchaf yn Uwch Gynghrair Lloegr yn rhoi cyfle iddo fod yn bennaeth ar dîm helaeth o staff.

“Dw i ddim wastad wedi bod mor ffodus â chael gweithio gyda’r lefel yma o gefnogaeth. Dw i wedi bod mewn sefyllfaoedd gyda dim ond fi a fy nghynorthwy-ydd.

“Does dim ots gyda fi wneud pethau yn y ffordd yna, ond mae’n braf hefyd cael pobol eraill o gwmpas.”

Er gwaetha’r adroddiadau dros y dyddiau diwethaf fod Pierre Barrieu wedi symud i Abertawe, mae’r trafodaethau’n parhau ond mae Bob Bradley yn hyderus y bydd y Ffrancwr-Americanwr yn dod i Abertawe.

“Dw i’n credu ei fod e’n agos iawn at ddod. Roedd Pierre gyda fi am bedair blynedd gyda’r Unol Daleithiau ac fe wnaeth e waith gwych gyda’r tîm cenedlaethol fel hyfforddwr ffitrwydd.

“Dw i ddim yn credu bod yna un chwaraewr sydd wedi bod yn nhîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau sy ddim yn uchel ei barch at waith Pierre.”

Mae Bob Bradley hefyd yn pwysleisio’r angen i’r hyfforddwyr gydweithio fel tîm yn hytrach na chael unben uwch eu pennau.

“Mae’r chwaraewyr yn gallu gweld bod pethau’n drefnus. Dw i’n tynnu’r staff i mewn a dw i ddim yn rhedeg pethau fel sioe un dyn.

“Os ydw i’n cael trosolwg ar bethau, mae’n bosib y bydda i’n dweud wrth Curt [Alan Curtis], ‘Cadwa di lygad ar hwn heddiw’.

“Felly dw i’n sicrhau bod gan bawb ei rôl, a bant â ni.”

Sarjant y driliau?

Er gwaetha’r pwyslais amlwg mae Bob Bradley yn ei roi ar ymarfer, mae’n gwadu’r honiad ei fod e’n ymdebygu i sarjant yn y fyddin.

“Dw i wedi clywed hynny o’r blaen ond dwi ddim yn sarjant y driliau. Pan fo’r math yna o beth yn cael ei daflu ata i, mae’n hawdd iawn dweud ‘sarjant Americanaidd y driliau’.

“Dw i’n hoffi bod ar y cae a dw i’n angerddol. Dw i’n dod ag egni i’r cae ymarfer. Dw i’n annog, dw i’n gwthio, dw i’n herio.

“Ond os yw Klopp neu Guardiola yn gwneud hynny, does neb yn eu galw nhw’n sarjant y driliau.”

Mae hoffter Bob Bradley o weithio ar y cae ymarfer yn hytrach na throsglwyddo’r cyfrifoldeb i hyfforddwyr eraill yn debyg i ddulliau ei ragflaenwyr Brendan Rodgers a Michael Laudrup.

“Dw i’n credu bod Brendan yn dal ar y cae ymarfer ac yn hyfforddi – ar ben y pethau bychain. Yn sicr y meistri wrth wneud hyn yw Guardiola a Mourinho, a dw i wastad wedi gweithio yn y modd hwnnw.

“Pan ddechreuais i hyfforddi yn y dyddiau cynnar, ro’n i’n hyfforddi drwy chwarae gyda’r chwaraewyr ar y cae. Ond nid Michael Laudrup mohono i, felly allwn i ddim parhau i chwarae gyda’r chwaraewyr.”