Mark Hughes
Mae rheolwr Stoke City, Mark Hughes, wedi cyhuddo Cymru o beryglu ffitrwydd Joe Allen ar ôl i’r chwaraewr canol cae ddychwelyd o ddyletswydd rhyngwladol gydag anaf i un o’r cyhyrau yn ei goes.

Cafodd Joe Allen ei anafu ar ôl sgorio yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Awstria yn Fienna nos Iau, Hydref 6.

Mae Mark Hughes yn credu bod Joe Allen wedi gwneud gormod gyda thîm Chris Coleman ac, o ganlyniad, mae’n bosib y bydd yn gorfod colli gêm Uwch Gynghrair i Stoke yn erbyn Sunderland y penwythnos hwn.

“Rydyn ni’n dal i gadw llygad ar Joe, a dydi o heb hyfforddi gyda’r tîm eto,” meddai Mark Hughes ar wefan swyddogol Stoke.

“Mae’n rhaid i ni fod ychydig yn ofalus gydag o. Yn anffodus, mae’n debyg ei fod o wedi gwneud ychydig yn ormod gyda charfan Cymru.”