Bob Bradley
Bydd gêm tîm pêl-droed Abertawe yn erbyn Arsenal yn stadiwm Emirates ddydd Sadwrn yn un o’r gemau mwyaf yng ngyrfa’r rheolwr newydd Bob Bradley.

Hon fydd gêm gynta’r Americanwr wrth y llyw ac fe fydd yn wynebu Arsene Wenger sydd wedi bod yn rheolwr ar Arsenal ers ugain mlynedd.

“Mae [y gêm] hon yn eu plith nhw,” meddai Bob Bradley. “Dw i ddim fel arfer yn edrych yn ôl ar bethau ond dw i wedi cael y cyfle hyfforddi yn erbyn rhai enwau mawr – [Fabio] Capello, [Vicente] del Bosque – ond mae Wenger ymhlith y rheolwyr gorau.

“Mae bod gyda chlwb am ugain mlynedd lle mae’r pêl-droed yn adlewyrchiad o’r dyn ei hun yn beth gwych.

“Roedd [Pep] Guardiola yn siarad am Cruyff yr wythnos diwethaf a bod ei ddylanwad yn mynd ymhellach na thlysau ac os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd dros ugain mlynedd yn Arsenal, mae e’r un peth.”

Amser da i herio Arsenal?

Ar y naill law, mae tranc Abertawe y tymor hwn yn golygu bod amseru’r gêm yn anffodus i Bradley ond ar y llaw arall, fe fyddai record yr Elyrch oddi cartref yn erbyn eu gwrthwynebwyr hefyd yn arf er mwyn rhoi hwb i’r chwaraewyr.

“Wrth adfer hyder, rhaid adfer arferion da hefyd. Pan fo timau’n mynd trwy gyfnodau gwael, mae’n hawdd llithro. Ymateb, symud pan fo gyda ni’r bêl – mewn cyfnodau anodd, mae’r pethau bach yn llithro’n ddiarwybod i chi, felly mater yw hi o atgoffa’r chwaraewyr, peidio â chyflwyno syniadau newydd, gwyllt…

“Ond gallwn ni fynd yno’n teimlo’n hyderus. Mae gyda ni fois sydd wedi ennill yno o’r blaen, ond rhaid i ni chwarae’n dda. Rhaid i bob manylyn fod yn gywir.

“Mae pêl-droed Arsenal yn siarad drosto’i hun. Ry’n ni’n gwybod beth yw eu pethau nhw, felly rhaid i ni sicrhau ar y naill law ein bod ni’n ymwybodol o’n dulliau amddiffyn, y pellter rhwng chwaraewyr a’u hatal nhw rhag manteisio.

“Dw i wastad yn mynd yn ôl at y ffaith fod rhaid i chi fynd yno i chwarae a bod yn hyderus ar y bêl. Rhaid i chi fod yn hyderus i gael pobol o flaen y bêl i gael creu mantais.”

Dim newidiadau mawr

Er bod Bradley yn cyfaddef fod rhaid i’r perfformiadau a’r canlyniadau wella, dydy e ddim yn disgwyl gorfod gwneud newidiadau tactegol mawr ar gyfer y daith i ogledd Llundain.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd pethau’n wahanol iawn. Gobeithio bod rhai manion yn well oherwydd fe fydd yn golygu bod pethau wedi gweithio wrth ymarfer felly os bydd cyfnodau lle byddwn ni’n gorfod amddiffyn, byddwn ni’n ei wneud e mewn ffordd hyderus, ymosodol.

“Mae Abertawe’n dîm sy’n pasio, dw i ddim am golli hynny, ond mae’r timau gorau wrth basio yn symud ymlaen, yn darganfod bylchau ac yn chwarae ar hyd llinellau.

“Dydy hynny ddim yn beth newydd i Abertwe ond mae sefyllfaoedd lle nad yw hynny wedi digwydd, felly byddwn ni’n darganfod ffordd sy’n llwyddo i ni.”