Pierre Barrieu
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dechrau penodi hyfforddwyr newydd i’w dîm yn Stadiwm Liberty, yn ôl adroddiadau.

Fe gafodd Bob Bradley ei ddatgelu’n swyddogol yr wythnos diwethaf yn olynydd i’r Eidalwr Francesco Guidolin.

Ar ôl i Guidolin gael ei ddiswyddo, daeth cadarnhad fod ei is-reolwr Gabriele Ambrosetti a dau aelod arall o’i staff, Diego Bortoluzzi a Claudio Bordon hefyd wedi gadael y clwb.

Mae disgwyl i Alan Curtis aros yn is-reolwr.

Mae adroddiadau bellach fod Pierre Barrieu wedi symud gyda Bob Bradley o Le Havre.

Fe fu Pierre Barrieu, cyn ymuno â Le Havre, yn aelod o dimau hyfforddi’r Unol Daleithiau, LA Galaxy a Sheffield Wednesday.

Fe allai rhagor o benodiadau gael eu cyhoeddi cyn gêm gynta’ Bob Bradley wrth y llyw yn erbyn Arsenal dros y penwythnos, ac mae’r rheolwr eisoes wedi dweud ei fod yn chwilio am hyfforddwr sydd â phrofiad o weithio yn yr Uwch Gynghrair.