Mae’r bowliwr a fowliodd y belen a laddodd y cricedwr Philip Hughes yn Awstralia yn 2014 wedi bod yn siarad yn gyhoeddus am y digwyddiad am y tro cyntaf erioed.
Bu farw Philip Hughes, 25, o waedlif ar ôl cael ei daro yn ystod gêm rhwng De Awstralia a New South Wales yn Sydney ar Dachwedd 25 ddwy flynedd yn ôl.
Sean Abbott oedd y bowliwr ar y pryd, ac fe fowliodd e belen fer tuag at ei wddf.
Ar drydydd diwrnod y cwest i farwolaeth Philip Hughes, dywedodd Abbott ei fod “wedi drysu ac wedi ypsetio” yn dilyn y digwyddiad, ac nad yw’n cofio llawer am yr hyn ddigwyddodd ar ôl i Philip Hughes gwympo i’r llawr yn anymwybodol.
Bwriad y cwest pum niwrnod a ddechreuodd ddydd Llun yw penderfynu a ellid fod wedi osgoi ei farwolaeth.
Nododd y crwner ar y diwrnod cyntaf ei bod yn anochel y byddai Philip Hughes yn marw ar ôl diodde’r anaf.
Y gwasanaethau brys
Mae’r cwest hefyd yn ystyried ymateb y gwasanaethau brys a natur y gêm ar y diwrnod y bu farw.
Wrth ddisgrifio’r munudau wedi’r digwyddiad, dywedodd Abbott: “Unwaith ro’n i’n ôl yn yr ystafell newid, ro’n i wedi drysu ac wedi ypsetio.
“Roedd gen i ben tost ac roedd pobol yn dod i fyny ata i ond alla i ddim cofio beth ddywedon nhw.
“Ro’n i’n teimlo’n flinedig dros ben. Arhosodd y teimladau hyn gyda fi am sawl diwrnod wedyn.”
Mae tactegau New South Wales hefyd wedi bod dan y lach yr wythnos hon, wrth i’r crwner awgrymu eu bod nhw wedi bowlio pelenni byrion yn fwriadol ac wedi anelu sylwadau sarhaus at y batiwr.
Mae’r bownsar yn belen gyfreithlon yn y gêm, a sylwadau sarhaus – neu “sledging” – yn dacteg gyfreithlon i aflonyddu batwyr.
Ond mae tri aelod o’r tîm oedd yn bowlio wedi gwadu bod y sylwadau wedi mynd yn rhy bell – ac fe gafodd hynny ei ategu gan bartner batio Hughes, Tom Cooper.
Mae Doug Bollinger, un arall o’r bowlwyr ar y diwrnod, wedi gwadu iddo fygwth lladd Hughes cyn y digwyddiad.
Mae’r cwest yn parhau.