Yng nghanol cyffro Ewro 2016 mae criw y Pod Pêl-droed wedi llwyddo i ddal i fyny â’u gilydd i recordio pennod i drafod y diweddaraf am ymgyrch Cymru yn Ffrainc.
Tommie Collins a Iolo Cheung – y naill ar ben arall y ffôn ym Mhorthmadog, a’r llall rhywle rhwng Paris a Lille – sy’n ymuno ag Owain Schiavone i drafod y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac edrych ymlaen at herio Gwlad Belg yn y rownd go-gynderfynol.
Mae’r triawd hefyd yn trafod system werthu tocynnau UEFA yn ystod y bencampwriaeth, y gefnogaeth newydd i dîm Cymru, a’r holl fanzones sy’n cael eu paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Wener.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt