Wayne Rooney, canol
Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo brawd Wayne Rooney, John, wrth iddyn nhw gryfhau eu carfan ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd y chwaraewr canol cae yn ymuno â’r Dreigiau ar ôl treulio dwy flynedd a hanner yn chwarae dros Gaer, eu gelynion pennaf.

Ar ôl dechrau ei yrfa yn Everton fe symudodd y chwaraewr 25 oed i Macclesfield cyn chwarae yn America dros New York Red Bulls ac Orlando City.

Mae Rooney hefyd wedi chwarae dros Barnsley a Bury cyn iddo symud i Gaer ym mis Ionawr 2014, gan chwarae dros 100 i’r clwb ers hynny.

Bydd ei frawd, Wayne Rooney, yn chwarae dros Loegr yn Ewro 2016 yr haf hwn wrth i’r Saeson baratoi i wynebu Cymru yn eu grŵp.

‘Teimlad da’

Mae Wrecsam eisoes wedi arwyddo’r amddiffynwyr Curtis Tilt, Martin Riley, Kai Edwards a Hamza Bencherif, yr asgellwyr Paul Rutherford a Callum Powell, a’r ymosodwr Jordan White ar gyfer y tymor newydd.

Ond mae Kayden Jackson, Connor Jennings, Jonny Smith, James Gray, Jonathan Royle, Ross White, Manny Smith a Wes York ymysg y rheiny sydd wedi gadael.

Dyrchafiad yn ôl i’r gynghrair bêl-droed fydd y nod unwaith eto i dîm Gary Mills, meddai cyfarwyddwr y clwb Spencer Harris wrth golwg360 yn ddiweddar.

Ychwanegodd Rob Evans, y chwaraewr canol cae sydd wedi bod â’r clwb ers blynyddoedd, fod ganddo deimlad da ar gyfer y tymor i ddod wrth drafod eu gobeithion.