Heddlu gwrthfrawychiaeth, Llun: PA
Mae cefnogwyr pêl-droed sy’n teithio i bencampwriaeth Ewro 2016 wedi’u rhybuddio i fod yn “wyliadwrus” yn sgil bygythiadau brawychol yn Ffrainc.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi rhyddhau cyngor sy’n nodi y gallai’r stadia, canolfannau cefnogwyr a thrafnidiaeth fod yn dargedau posib i drychinebau.
O ganlyniad, mae swyddogion gwrthfrawychiaeth Prydain wedi cadarnhau eu bod yn chwarae “rhan allweddol” wrth gynllunio yn erbyn yr ymosodiadau.
Yn ogystal, mae tîm o arbenigwyr diogelwch o’r Deyrnas Unedig wedi teithio i Ffrainc i gydweithio â’r Heddlu a’r Gwasanaethau Cudd yno i asesu’r bygythiadau posib.
‘Pryder amlwg’
Ddoe, fe wnaeth swyddogion yn yr Wcráin arestio dyn o Ffrainc gan honni ei fod wedi’i ysbrydoli gan gredoau asgell dde eithafol ac yn cynllunio ymosodiadau yn ei wlad enedigol.
“Wrth inni agosáu at yr Ewros, mae unrhyw weithgarwch tebyg i hyn mewn unrhyw wlad yn bryder amlwg,” meddai Dean Haydon, Pennaeth Tîm Gwrth-frawychiaeth Scotland Yard.
“Er mai Ffrainc fydd yn heddlua a chynllunio’r digwyddiad yn sylfaenol, rydym ni oll ynghlwm â cheisio deall y bygythiad, os oes yna fygythiad,” meddai.
Ychwanegodd y bydd y gwaith o heddlua ardaloedd a chanolfannau cefnogwyr ym Mhrydain yn digwydd “yn ôl yr arfer,” ac y byddan nhw’n “cadw llygad ar Ffrainc.”
‘Dim yn ymateb i fygythiad newydd’
Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, “rydym wedi diweddaru ein cyngor teithio i ddarparu gwybodaeth bellach i gefnogwyr ar y risg o frawychiaeth yn Ffrainc wrth iddyn nhw ddechrau teithio i Ewro 2016.”
“Mae hyn yn unol â’r cyngor rydym eisoes wedi’i ryddhau i Ffrainc a dyw e ddim yn ymateb i fygythiad newydd neu benodol na chwaith i’r arestio a ddigwyddodd ddoe.”
Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod awdurdodau Ffrainc wedi paratoi “gweithrediad diogelwch ar raddfa fawr.”
Dywedodd y bydd Llywodraeth Prydain yn darparu “cymorth gwrthfrawychiaeth ychwanegol a rhybudd cyhoeddus i gefnogi Ffrainc. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau plismyn ychwanegol ar drenau i Ffrainc a mwy o wiriadau allanol gan Lu Ffiniau’r DU.”