Mae tîm criced Morgannwg wedi curo deiliaid presennol cwpan 50 pelawd Royal London, Swydd Gaerloyw o 52 o rediadau yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Tarodd Will Bragg 75 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 289, oedd dipyn yn brin o’r cyfanswm y dylen nhw fod wedi’i gael ar ôl dechrau mor gryf i’r batiad.

Ond roedd y cyfanswm yn ddigon i’w amddiffyn, wrth i Colin Ingram a Graham Wagg gipio dwy wiced yr un i gyfyngu Swydd Gaerloyw i 237 a sicrhau’r fuddugoliaeth ar ddechrau’r gystadleuaeth.

Manylion y gêm

Ar ôl colli David Lloyd yn gynnar yn eu batiad am 28, daeth sefydlogrwydd drwy’r capten Jacques Rudolph a Will Bragg wrth iddyn nhw arwain Morgannwg i 58-1 oddi ar bymtheg pelawd y cyfnod clatsio.

Roedd y Cymry’n 100-1 ar ôl 22.5 pelawd a’r batwyr erbyn hynny’n rheoli’r gêm yn heulwen crasboeth y brifddinas. Will Bragg oedd y cyntaf i gyrraedd ei hanner canred, a hynny gydag ergyd am bedwar drwy’r cyfar. Fe gymerodd 51 o belenni i gyrraedd y nod, gan daro saith pedwar ar ei ffordd i’r garreg filltir. Daeth partneriaeth Bragg a Rudolph o 122 i ben wrth i Bragg gael ei fowlio gan Craig Miles wrth geisio sgubo’n wrthol oddi ar belen syth.

Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner canred oddi ar 76 o belenni gan daro dau bedwar wrth i’w gydwladwr Colin Ingram ddod i’r llain. Ond buan y cafodd Rudolph ei redeg allan am 53 wrth fentro rhediad peryglus, a Morgannwg yn 168-3. Fe ddilynodd Aneurin Donald yn dynn ar ei sodlau wrth gael ei ddal gan Ian Cockbain oddi ar Matt Taylor am 1, a Morgannwg yn llithro i 169-4.

Aeth 169-4 yn 179-5 wrth i Liam Norwell ddarganfod ymyl bat Chris Cooke, ac yntau wedi sgorio wyth rhediad yn unig, ac roedd hi’n ymddangos bod dechrau cadarn Morgannwg yn mynd i gael ei wastraffu. Roedd Ingram a Graham Wagg wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant erbyn pelawd rhif 43, ond wrth glatsio’n ormodol oddi ar fowlio Chris Dent, fe wnaeth Ingram ddarganfod dwylo diogel Jack Taylor ar y ffin ar ochr y goes a Morgannwg yn 239-6 gyda 7.2 pelawd yn weddill.

Collodd y Cymry eu seithfed wiced yn fuan wedyn a’r cyfanswm yn 245, wrth i Craig Meschede gael ei fowlio gan Benny Howell am 0.  Ychwanegodd Wagg a Timm van der Gugten 27 at y cyfanswm cyn i Wagg gael ei redeg allan un rhediad yn brin o’i hanner cant. Dean Cosker oedd y nawfed batiwr allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Benny Howell, a orfennodd ei ddeg pelawd gyda ffigurau o 2-37.

Daeth y batiad i ben gydag un belen yn weddill wrth i van der Gugten gael ei ddal gan Roderick am 18, a Morgannwg i gyd allan am 289 gan golli cyfle i gyrraedd cyfanswm tipyn uwch.

Os oedd diwedd batiad Morgannwg yn siomedig, roedd tipyn gwell i ddod ar ddechrau batiad Swydd Gaerloyw, wrth i’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg ddal Chris Dent oddi ar ei fowlio’i hun cyn diwedd y pumed pelawd, a’r cyfanswm yn 16 yn unig. Daeth ail wiced o fewn dim o dro wrth i Gareth Roderick dynnu pelen fer gan Wagg i gyfeiriad Aneurin Donald ar ochr y goes, a’r ymwelwyr yn 24-2. Llwyddodd capten yr ymwelwyr Michael Klinger a Hamish Marshall sefydlogi’r batiad ryw fymryn erbyn y degfed pelawd, wrth iddyn nhw gyrraedd 46-2.

Ond cwympodd y drydedd wiced gyda’r cyfanswm yn 48, wrth i Timm van der Gugten fowlio bownsar araf at Hamish Marshall, a Cooke yn barod am y daliad y tu ôl i’r ffyn. Erbyn diwedd y pymtheg pelawd o glatsio, roedd yr ymwelwyr un rhediad ar y blaen ond wedi colli dwy wiced yn fwy na Morgannwg ar yr un adeg.

Roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 109-4 erbyn i hanner y pelawdau gael eu bowlio, ac roedd y capten Michael Klinger wedi cyrraedd ei hanner canred wrth iddo frwydro i achub yr ornest i’w dîm. Ond daeth y wiced fawr i Forgannwg yn fuan wedyn, wrth i’r Awstraliad daro’r bêl yn syth yn ôl at y bowliwr Colin Ingram am 52, ac roedd gobeithion Swydd Gaerloyw, oedd yn 116-5, yn dechrau pylu o dan y llifoleuadau.

Cwympodd eu chweched wiced gyda’r cyfanswm yn 122, Jack Taylor y tro hwn yn canfod dwylo Aneurin Donald ar ymyl y cylch wrth yrru i’r ochr agored. Llwyddodd Tom Smith a Benny Howell i ymestyn y gêm rywfaint wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o hanner cant ond gyda thros gant o rediadau i’w cael mewn ychydig dros unarddeg o belawdau, roedd y canlyniad erbyn hynny’n anochel.

Daeth y bartneriaeth o 66 i ben gyda’r cyfanswm yn 187-7, wrth i Smith gael ei fowlio gan Meschede am 27. Dilynodd Craig Miles rediad yn ddiweddarach, wrth i ddryswch arwain ato’n cael ei redeg allan gan Aneurin Donald. Cyrhaeddodd Benny Howell ei hanner canred oddi ar 49 o belenni, gan daro pum pedwar ac un chwech.

Cwympodd nawfed wiced Swydd Gaerloyw wrth i Will Bragg ddal Liam Norwell oddi ar fowlio van der Gugten am 10, a’r cyfanswm yn 227, a seliodd Morgannwg y fuddugoliaeth wrth i Howell gael ei ddal gan Wagg ar y ffin oddi ar fowlio van der Gugten a gipiodd dair wiced.