Mae cyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum wedi beirniadu ymateb y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) i’r ffrae ynghylch trefnu canlyniadau gemau ymlaen llaw a arweiniodd at achos llys yn erbyn ei gydwladwr Chris Cairns.

Cafwyd Cairns yn ddieuog yn Llys y Goron Southwark fis Tachwedd diwethaf o dyngu anudon, ar ôl honiadau ei fod e wedi dweud mewn gwrandawiad blaenorol nad oedd e erioed wedi bod ynghlwm wrth drefnu canlyniadau gemau.

Dywedodd McCullum fod Cairns wedi mynd ato ddwywaith i’w ddarbwyllo i’w helpu i drefnu canlyniadau, a bod yntau wedi dweud wrth yr ICC a’r heddlu am y digwyddiad.

Ond fe gyfaddefodd y dylai fod wedi adrodd am y digwyddiad dipyn ynghynt.

Serch hynny, dywedodd McCullum fod chwaraewyr yn “haeddu gwell” os ydyn nhw’n eu canfod eu hunain yn y sefyllfa honno.

Rhyddhau gwybodaeth i’r wasg

Brendon McCullum fu’n traddodi araith flynyddol Ysbryd Criced yr MCC yn enw’r diweddar Arglwydd Cowdrey yn Lord’s nos Lun.

Fe ddywedodd ei fod e wedi siomi am fod yr hyn yr oedd yn mynd i’w ddweud yn yr achos yn erbyn Cairns wedi cael ei ryddhau i’r Daily Mail.

Dywedodd McCullum ei fod e wedi’i ganfod ei hun mewn “sefyllfa ofnadwy” o dan y chwyddwydr.

“Ni ddylai unrhyw dyst sydd wedi cyflwyno tystiolaeth i’r ICC orfod profi’r fath sefyllfa fyth eto.”

Dywedodd na chafodd unrhyw eglurhad pam fod y wybodaeth wedi cael ei rhyddhau i’r wasg, ac na fu’n rhaid i unrhyw unigolyn fod yn atebol am y sefyllfa.

Ychwanegodd ei bod yn “anodd” bod â hyder yn y corff llywodraethu o’r herwydd, ac fe ychwanegodd fod y corff wedi bod yn rhy llym wrth iddyn nhw wahardd Lou Vincent am oes ar ôl iddo yntau gael ei ganfod yn euog o drefnu canlyniadau gemau.

Capteniaeth

Yn ystod ei araith, fe fu McCullum yn trafod ei yrfa a’i gyfnod yn gapten ar y tîm cenedlaethol, gan ddweud ei fod yn awyddus i’w dîm fod yn “ostyngedig” a gweithio’n galed.

Ychwanegodd: “Roedden ni am gael ein parchu gan gefnogwyr yn Seland Newydd sydd wedi dioddef ers amser hir.

“Roedden ni am gael ein parchu gan ein gwrthwynebwyr a chyn gallu hawlio hyn, roedd yn rhaid i ni ddysgu eu parchu nhw.”

Marwolaeth Phil Hughes

Gwnaeth McCullum hefyd achub ar y cyfle i gofio’r cricedwr o Awstralia, Phil Hughes a gafodd ei ladd yn 2014 ar ôl cael ei daro gan bêl yn ystod gêm. Dywedodd fod y digwyddiad wedi cael cryn effaith ar ei dîm yn y misoedd wedyn.

“Yr hyn oedd wedi ein hysgogi ni oedd Phil Hughes. Roedden ni’n gwybod fod rhaid i ni chwarae ac fe fydden ni’n gwneud hynny hyd eithaf ein gallu er mwyn anrhydeddu Phil a’r gamp.”