Gyda thîm Cymru’n paratoi at Bencampwriaeth Ewro 2016 fis nesaf, mae sêr dwy raglen boblogaidd ar S4C wedi ffurfio timau cymysg o ferched a dynion i herio’i gilydd ar y cae pêl droed.
Bydd Gêm y Sêr: Pobol y Cwm v Rownd a Rownd yn cael ei chynnal ym Mharc Latham, y Drenewydd, ddydd Sul, 22 Mai, gyda’r gic gyntaf am 3.30 y prynhawn.
S4C sy’n trefnu’r digwyddiad gyda chydweithrediad cwmnïau cynhyrchu’r ddwy gyfres BBC Cymru (Pobol y Cwm) a Rondo Media (Rownd a Rownd) ac mae’n rhan o weithgareddau a rhaglenni i gyd-fynd gyda darllediadau byw S4C o gemau Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016.
Codi arian at elusen
Er bod mynediad i’r gêm am ddim, fel rhan o weithgaredd S4C yn ystod cystadleuaeth Ewro 2016, mae’r sianel yn codi arian at yr elusen Street Football Wales. Fe fydd S4C yn cynnal raffl arbennig yn ystod y gêm i gefnogi’r elusen sy’n helpu pobl ddigartref ac wedi’i eithrio gan gymdeithas trwy bêl-droed.
Dywedodd Dai ‘Marino’ Ashurst, capten a hyfforddwr tîm Pobol y Cwm, sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Emyr Wyn: “Ar ôl wythnosau o ddod i dermau nad 15 dyn sydd ar y cae chwarae, mae Cwmderi RFC (sori AFC) bellach wedi cyrraedd stêj dau o’u paratoadau – sef peidio â gafael yn y bêl! Ond, fe fyddwn yn barod i wynebu’r her ac yn edrych ‘mlân at redeg cylchoedd oboiti tîm Rownd a Rownd.”
Meddai Jane Felix Richards, Pennaeth Hyrwyddo a Marchnata S4C: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gêm sêr sebon sy’n rhan o ddiwrnod o bêl-droed a hwyl o’r Drenewydd.
“Mae’n achlysur hanesyddol gan nad yw’r ddwy gyfres sebon boblogaidd erioed wedi herio ei gilydd ar y cae pêl-droed. Rydym yn ddiolchgar iawn i gast a chriw’r ddwy gyfres ac i glwb pêl-droed Y Drenewydd am wneud y cyfan yn bosibl.”