Bydd gwefannau Food a Newsbeat y BBC yn dod i ben, ynghyd â’i wasanaeth iWonder, dros y 12 mis nesaf er mwyn ceisio arbed £15m i’r sefydliad.
Bydd y cylchgrawn ar-lein, News Magazine, hefyd yn cau, a bydd erthyglau hirach ar-lein o dan faner materion cyfoes yn dod yn ei le.
Mae disgwyl y bydd gweithgarwch y BBC o gwmpas radio digidol a cherddoriaeth hefyd yn lleihau, a bydd ei wefan Travel hefyd yn dod i ben.
Bydd gwefan Good Food y BBC, chwaer wefan BBC Food, yn parhau, meddai’r gorfforaeth.
“Ail-ddiffinio’r BBC”
“Mae gofyn i’r BBC ail-ddiffinio ei hun yn dilyn dyfodiad y we,” meddai James Harding, cyfarwyddwr Newyddion a materion cyfoes y BBC, gan ychwanegu na fydd yn newid ei “genhadaeth” serch hynny.
“Pwrpas y BBC ar-lein yw darparu gwasanaeth cyhoeddus arbennig sy’n hysbysu, addysgu ac yn rhoi adloniant.”
Bydd tua 11,000 o ryseitiau yn cael eu colli o dan y newidiadau, ac mae deiseb i’w hachub eisoes wedi denu 30,000 o gefnogwyr.
Bydd gwasanaethau ar-lein y BBC bellach yn canolbwyntio ar chwe maes, gan ddarparu newyddion, chwaraeon, adloniant, celfyddydau, diwylliant, hanes a gwyddoniaeth.
Bydd gwasanaethau i blant, BBC iPlay a BBC Bitesize, yn parhau.