Cei Connah 1–0 Airbus
Gap Cei Connah fydd pedwerydd tîm Cymru yn Ewrop y tymor nesaf wedi iddynt drechu Airbus yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Uwch Gynghrair yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.
Roedd gôl hwyr Wes Baynes yn ddigon i’r tîm cartref wrth i’r Nomadiaid ymuno â’r Bala a Llandudno yng Nghynghrair Ewropa.
Airbus a oedd y tîm gorau am rannau helaeth o’r hanner cyntaf ond heb greu llawer o flaen gôl. Gorffennodd Cei Connah yr hanner yn gryf serch hynny a hwy a gafodd y cyfleoedd gorau ond llwyddodd James Coates i arbed peniad Les Davies a foli Nick Rushton.
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Cei Connah yn pwyso. Cafodd Rushton gyfle da arall o groesiad Baynes ond anelodd ei foli heibio’r postyn.
Prin a oedd y cyfleoedd yn y pen arall, Ryan Wignall a gafodd y gorau ond taro’r rhwyd ochr a wnaeth ei gynnig o ongl dynn.
Bu rhaid aros tan ddeg munud o’r diwedd am y gôl holl bwysig. Methodd Airbus â chlirio’r bêl yn dilyn tafliad hir Les Davies ac anelodd Baynes bêl trwy bentwr o gyrff yn y cwrt cosbi a choesau Coates yn y gôl.
Taflodd Airbus bopeth at gwrt cosbi Cei Connah yn y munudau olaf ond fu dim rhaid i Jon Rushton yn y gôl wneud hyd yn oed un arbediad.
.
Cai Connah
Tîm: J. Rhushton, Disney, Linwood, Crowther, Horan, Morris, Davies, N. Rushton (McIntyre 83’), Smith, Woolfe (Ruane 70’), Baynes
Gôl: Baynes 80’
Cardiau Melyn: Horan 42’, Smith 58’
.
Airbus
Tîm: Coates, Owens, Kearney, Pearson, McGinn, Murphy (Wade 66’), Wignall, Williams (Barrow 84’), Monteiro, Gray, Budrys
Cardiau Melyn: Gray 55’, Owens 57’, Wignall 66’
.
Torf: 904