Mae ymosodwr ifanc Cymru Aaron Collins wedi symud o Gasnewydd i Wolves am bris sydd heb ei ddatgelu.

Fe arwyddodd y chwaraewr 18 oed gytundeb sydd yn para dwy flynedd a hanner â’r clwb o ganolbarth Lloegr.

Ymunodd Collins â Chasnewydd o academi Bristol Rovers, ac ers hynny mae wedi chwarae 25 o weithiau dros y clwb o Went gan gynnwys sgorio tair gôl y tymor yma.

Mae eisoes wedi chwarae dros dîm dan-19 Cymru, ac mae’n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr mwyaf addawol y timau ieuenctid.

“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yng Nghlwb Pêl-droed Casnewydd, ond gobeithio galla i wthio ‘mlaen nawr a phrofi mod i’n gallu chwarae yn y Bencampwriaeth,” meddai Collins.