Gareth Bale (llun: Adam Davy/PA)
Fe adawodd Gareth Bale y cae gydag anaf arall i groth ei goes wrth i Real Madrid ennill o 5-1 yn erbyn Sporting Gijon.
Roedd Los Blancos 4-0 ar y blaen o fewn llai nag ugain munud, gyda Bale yn penio’r gôl agoriadol cyn creu’r drydedd i Benzema gyda chroesiad gwych.
Fe adawodd y cae cyn yr egwyl gyda’r un anaf cyhyrol sydd wedi’i boenydio’n gynharach yn y tymor, ond dim ond am ychydig wythnosau y mae disgwyl iddo fod allan.
Yn yr Uwch Gynghrair fe chwaraeodd Aaron Ramsey gêm lawn wrth iddi orffen yn ddi-sgôr rhwng Stoke ac Arsenal, gan glirio’r bêl oddi ar y lein yn hwyr yn y gêm i achub pwynt i’w dîm.
Ond cafodd y Cymro ei fwio unwaith eto gan gefnogwyr Stoke, fu hefyd yn canu caneuon di-chwaeth amdano, chwe blynedd ers i amddiffynnwr y Potters Ryan Shawcross dorri coes Ramsey.
Fe barhaodd wythnos siomedig Wayne Hennessey wrth iddo adael i ergyd Fabian Delph lithro drwy ei ddwylo ar gyfer gôl gyntaf Man City yn erbyn Crystal Palace.
Colli o 4-0 oedd hanes ei dîm o a Joe Ledley yn y diwedd, gyda rheolwr Palace Alan Pardew yn awgrymu ar ôl y gêm fod yn rhaid iddo weld gwelliant gan y golwr os oedd am gadw’i le yn y tîm.
Fe enillodd Newcastle o 2-1 yn erbyn West Ham i’w codi nhw uwchben Abertawe yn y tabl, gyda Paul Dummett yn dod oddi ar y cae ar ôl 57 munud i’r tîm cartref gydag anaf a James Collins yn chwarae gêm lawn i’r ymwelwyr.
Gwylio o’r fainc oedd Joe Allen a Danny Ward wrth i Lerpwl golli o 1-0 gartref yn erbyn Man United, ac roedd Ben Davies hefyd ymysg yr eilyddion wrth i Spurs drechu Sunderland o 4-1.
Ar y fainc hefyd oedd Andy King wrth i Gaerlŷr ddychwelyd i frig y tabl gyda gêm gyfartal yn Aston Villa, a James Chester wrth iddo wylio West Brom yn colli o 3-0 yn Southampton.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth, fe chwaraeodd Wes Burns gêm lawn i Bristol City a sgorio peniad yn y munud olaf i gipio’r fuddugoliaeth o 1-0 a thri phwynt i’w dîm yn erbyn Middlesbrough.
Sgoriodd yr amddiffynnwr Joe Walsh unig gôl y gêm gyda foli acrobatig wrth i MK Dons drechu Reading 1-0, gyda Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn dechrau i’r ymwelwyr, a Simon Church yn gwylio o fainc y Dons.
Gorffennodd hi’n 1-1 rhwng Huddersfield a Fulham, gyda chic rydd Emyr Huws yn creu gôl y tîm cartref a Jazz Richards yn chwarae gêm lawn i’r ymwelwyr, tra bod Joel Lynch wedi dod oddi ar y fainc.
Cafodd Charlton eu hail gweir o fewn wythnos, gan golli 6-0 i Hull ar ôl eisoes cael eu trechu 5-0 gan Huddersfield, ond erbyn i Morgan Fox ddod ymlaen fel eilydd am yr hanner awr olaf roedd pump o’r goliau eisoes wedi cael eu hildio.
Colli o 3-1 oedd hanes Dave Edwards a Wolves yn erbyn Caerdydd, ond fe enillodd Sam Vokes a Burnley o’r un sgôr oddi cartref yn erbyn Brentford.
Roedd Lewis Price nôl yn y gôl i Sheffield Wednesday wrth iddyn nhw drechu Leeds o 2-0, ac fe ddaeth Adam Henley, Tom Lawrence ac Andrew Crofts i gyd ymlaen fel eilyddion wrth i Brighton drechu Blackburn o 1-0.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban colli o 2-1 yn Kilmarnock oedd hanes Owain Fôn Williams gydag Inverness, ac yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw unwaith eto wrth i Walsall drechu Bury o 3-2.
Seren yr wythnos – Wes Burns. Cyfle prin i ddechrau dros Bristol City, ac fe wnaeth yr ymosodwr ifanc y mwyaf o’r cyfle hwnnw.
Siom yr wythnos – Gareth Bale. Anaf arall i groth ei goes, ac er nad oes disgwyl iddo fod allan yn hir, gobeithio nad yw’n broblem fydd yn dychwelyd eto nes ‘mlaen yn y tymor.