Mae adroddiadau bod rhai o chwaraewyr gorau tenis wedi twyllo mewn gemau a cholli’n fwriadol, yn ôl ymchwiliad gan y BBC a’r cwmni cyfryngau ar-lein, Buzzfeed.
Yn ôl yr ymchwiliad, cafodd enwau’r 16 o chwaraewyr sy’n cael eu hamau eu cyfeirio sawl gwaith at y swyddogion gwrthlygredd yn y Tennis Integrity Unit (TIU) dros y ddegawd ddiwethaf.
Mae’r honiadau’n awgrymu bod y chwaraewyr yn cynnwys pencampwyr Grand Slam gemau sengl a dwbl a chafodd y twyllo honedig ei wneud mewn twrnameintiau mawr, gan gynnwys Wimbledon.
Roedd pob un o’r chwaraewyr wedi cael caniatâd i barhau i chwarae.
Gamblwyr Rwsia a’r Eidal
Syndicetiau yn Rwsia a’r Eidal sydd wedi’u hamau o gynllunio’r twyll, gyda’r awgrym bod chwaraewyr yn cael eu targedu mewn gwestai cyn gêm fawr ac yn cael cynnig tua $50,000 (£35,200) gan gamblwyr llygredig.
Yn ôl yr ymchwiliad, mae’r rhain wedi ennill cannoedd ar filoedd o bunnoedd drwy fetio ar ganlyniadau gemau.
Y gred yw bod yr enwau wedi cael eu rhoi i’r TIU mewn ymchwiliad a ddechreuodd yn 2007 yn dilyn patrymau betio amheus mewn gêm rhwng Nikolay Davydenko a Martin Vassallo Arguello. Roedd y ddau wedi’u cael yn ddieuog o dorri unrhyw reolau.
Er gwaethaf maint y dystiolaeth o chwarae amheus, nid oes unrhyw un wedi cael ei gosbi a daeth yr ymchwiliad i ben y flwyddyn ganlynol.
Mae’r TIU yn gwadu cyhuddiadau o anwybyddu unrhyw dwyll yn y gamp.