Roedd buddugoliaeth o 7-3 yn erbyn y Sheffield Steelers yn goron ar benwythnos llwyddiannus i Devils Caerdydd nos Sul.
Dyma’u hail fuddugoliaeth ar eu tomen eu hunain dros y penwythnos, wedi iddyn nhw drechu’r Belfast Giants o 5-3 nos Sadwrn.
Lai na phedair munud gymerodd hi i’r Devils sgorio’r gôl gyntaf, a honno’n ddeunawfed gôl y tymor i Tomas Kurka, wrth i Joey Martin a Guillaume Doucet ei gynorthwyo.
Dyblodd y Devils eu mantais wrth i Gleason Fournier ddarganfod y rhwyd am y tro cyntaf i’w glwb newydd wedi chwarter awr o’r cyfnod cyntaf.
Ymestynnodd y Devils eu mantais i dair gôl ym munudau ola’r ail gyfnod, a honno’n un gampus i Doucet wrth i Carl Hudson a Joey Martin ei gynorthwyo.
Tarodd y Steelers yn ôl gyda chwta dwy funud o’r ail gyfnod yn weddill, ond sgoriodd y Devils ddwy gôl o fewn llai na munud i ymestyn eu mantais i 5-1 – y gyntaf gan Joey Haddad a’r ail gan Jake Morissette.
38 eiliad gymerodd hi i’r Devils sgorio chweched gôl ar ddechrau’r trydydd cyfnod, wrth i Haddad rwydo am yr ailwaith.
Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl gyflym – y gyntaf gan Zach Fitzgerald wedi 13:40 o funudau a’r ail gan Ryan Hayes funud yn ddiweddarach.
Gyda’r sgôr yn 6-3, sgoriodd y Devils eu gôl olaf wedi 53:16, wrth i Chris Culligan rwydo, wedi’i gynorthwyo gan Fournier a Haddad.
Cafodd Haddad ei enwi’n seren yr ornest wrth i’r Dreigiau aros ar frig y gynghrair.