Mae adroddiadau yn yr Eidal bod cyn-reolwr Udinese, Francesco Guidolin ar fin cael ei benodi’n brif hyfforddwr Abertawe.
Mae rheolwr presennol yr Elyrch, Alan Curtis, a gafodd ei benodi’n rheolwr tan ddiwedd y tymor yn dilyn diswyddo Monk, wedi awgrymu ei fod yn barod i gamu o’r neilltu pe bai’r Elyrch yn awyddus i benodi olynydd mwy parhaol.
Ond mae rhai adroddiadau’n awgrymu y bydd y ddau yn cydweithio tan ddiwedd y tymor, gyda Guidolin yn brif hyfforddwr a Curtis yn parhau’n rheolwr.
Mae gan Guidolin, 60, brofiad o weithio yn Lloegr yn dilyn cyfnod fel un o gyfarwyddwyr Watford – gwrthwynebwyr yr Elyrch nos Lun – ac fe ddywedodd y byddai’n croesawu’r cyfle i weithio yn yr Uwch Gynghrair, yn ôl Sky Sport Italia.
Dydy Guidolin ddim wedi bod yn gweithio ers iddo adael Udinese yn 2014 am resymau iechyd, ond mae ganddo brofiad helaeth yn dilyn cyfnodau gyda Milan, Roma, Empoli, Vicenza, Bologna, Genoa, Monaco, Parma a Palermo.