Mae carfan bêl-droed Cymru yn treulio’u diwrnod cyntaf yn Qatar, wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd.
Teithiodd y rhai oedd ddigon ffodus i gael eu cynnwys yng ngharfan 26 dyn Rob Page, yn ogystal â’r staff, o Gaerdydd brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 15).
Cynhaliodd y garfan sesiwn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn teithio, a daeth cannoedd o blant i ffarwelio â’r chwaraewyr, gyda pherfformiad arbennig gan yr artist drill o Benygroes, Sage Todz.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth rhagor i ddymuno’n dda i’r garfan ym Maes Awyr Caerdydd cyn iddyn nhw hedfan.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch gyda gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau ddydd Llun (Tachwedd 21), gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch y nos yng Nghymru, cyn mynd ymlaen i herio Iran a Lloegr yng Ngrŵp B.
Fe fydd y garfan yn ymarfer yng nghlwb Al-Sadd yn Qatar yn ystod y gystadleuaeth, ac yn rhannu’r cyfleusterau gyda charfan Japan.
“Ry’n ni’n falch ein bod ni yma nawr fel y gallwn ni daflu’n holl ffocws at y gêm gyntaf,” meddai Rob Page.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych ers i ni gwrdd.
“Rydyn ni wedi cael cwpwl o ddyddiau gyda’n gilydd, ac rydyn ni mor falch o fod yma.”