Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgan bod cystadlu yng Nghwpan y Byd yn “newid byd” i bêl-droed yng Nghymru yn ogystal â’r wlad ei hun.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gymhwyso ar gyfer Cwpan Byd ers 1958.

Cymru yw’r genedl leiaf i gyrraedd y twrnament, gyda’i phoblogaeth o 3.1m fymryn yn fwy na phoblogaeth Qatar, oedd wedi cymhwyso’n awtomatig i’r rowndiau terfynol fel y wlad sy’n cynnal y twrnament.

“Mae pob diwrnod yn teimlo fel cam newydd i ddatblygu pêl-droed yng Nghymru,” meddai Noel Mooney.

“Mae’n bendant yn newid byd i bêl-droed ac i’r genedl mewn cyd-destun ehangach.

“Mae’n rhoi hyder i ni y gall y wlad ffynnu ar lwyfan y byd.

“Rydyn ni ochr yn ochr â rhai o’r cenhedloedd mwyaf ar y blaned yng Nghwpan y Byd, ac mae’n golygu llawer ein bod ni’n mynd i’r sioe fwyaf ar y ddaear.

“Yr hyn fyddwn i wedi poeni amdano yw pe na bydden ni wedi gwneud ein pethau oddi ar y cae.

“Ond rydyn ni wedi gweithio’n galed i ryngweithio â gwahanol bleidiau a sefydliadau ac rydyn ni’n ran llawer mwy o fywyd Cymru.

“Rydych chi’n gweld yr hetiau bwced a’r crysau Cymru retro ym mhobman mewn gwahanol wyliau o gwmpas y wlad ac mae jyst yn amser gwych yn ein hanes ni.

“Mae’n bwysig fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynd y tu hwnt i’r pêl-droed a’n bod yn cynrychioli cenedl fodern, ystwyth, hyderus sy’n gallu masnachu gyda gweddill y byd.”

Datblygu pêl-droed ar lawr gwlad

Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru gynlluniau i ddatblygu pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywed Noel Mooney y bydd y ffordd y deliodd yn ofalus â chyllid Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers iddo gymryd y swydd fis Awst y llynedd yn golygu y bydd y sefydliad yn troi colled o £3m eleni’n elw o ryw £300,000.

“Ein bwriad nawr yw ariannu cyfleusterau a gwasanaethau cymorth ar lawr gwlad sy’n helpu ein clybiau i ddod yn ganolfannau lles,” meddai.

“Rydym am ddod yn Gymdeithas Bêl-droed dros Les.

“Efallai nad oes gennym ni’r adnoddau sydd gan rai sefydliadau eraill yng Nghymru, ond rydyn ni’n teimlo bod gennym ni rywbeth arbennig iawn – tîm pêl-droed da iawn, sef craidd y cynnyrch – ac rydyn ni’n cael partneriaid mwy yn dod atom ni â ffioedd hawliau cyfryngau mwy.

“Mae Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog yn sylweddoli pŵer pêl-droed ac maen nhw’n ein cefnogi.

“Mae yna lot o gyfarfodydd masnach wedi cael eu cynllunio o gwmpas Cwpan y Byd, yn y farchnad Americanaidd er enghraifft, a hyrwyddo Cymru ar gyfer busnes a masnach.

“Mae’n edrych yn wahanol nawr.

“Rydyn ni’n llawer mwy datblygedig fel sefydliad ac fel gwlad o ran yr hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.”