Mae Joe Ledley, cyn-chwaraewr canol cae Cymru, yn ffyddiog y bydd chwaraewr canol cae arall, Joe Allen, yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd.
Fe fu Allen allan am rai misoedd cyn teithio i Qatar, a hynny ar ôl anafu llinyn y gâr.
Ond pe bai’n holliach ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Lun (Tachwedd 21) – gêm fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C – fe fyddai’n ailadrodd yr hyn ddigwyddodd yn Ewro 2016, pan ddychwelodd Joe Ledley yn annisgwyl ar ôl torri ei goes.
Fe wnaeth Ledley – cyn-chwaraewr Caerdydd, Celtic a Crystal Palace – ryfeddu meddygon drwy chwarae 35 diwrnod ar ôl torri asgwrn yn ei goes.
“Yn ôl yn 2016, aethon nhw â fi allan pan oedd amheuaeth amdana i, ond fe ges i fwy o baratoadau na Joe,” meddai Joe Ledley.
“Roedd y tymor wedi gorffen, felly ges i ychydig dros fis i baratoi.
“Fe weithiais i mor galed, ro’n i yn y cyflwr gorau erioed fel chwaraewr.
“Mae Joey mewn sefyllfa debyg ar hyn o bryd, yn anffodus.
“Ond dw i’n sicr pan ddaw ei gyfle y bydd e’n barod, er y bydd yn rhaid i ni ei gadael hi yn nwylo’r staff meddygol i benderfynu a yw e’n iawn.
“Roedd hi’n anodd ceisio dal fy hun yn ôl wrth i fi ddychwelyd i fod yn holliach.
“Roedd ymarfer gydag asgwrn wedi torri’n eithaf anodd, y peth diwethaf roeddech chi eisiau oedd mynd i mewn i dacl a bod rhywun yn cwympo arni.
“Anaf i’r cyhyr yw anaf Joe, felly mae’n wahanol.
“Dydych chi ddim eisiau gorymestyn wrth ymarfer, ond unwaith mae’r chwiban yn mynd mewn gêm, mae’n mynd yn syth i gefn eich meddwl.”
Gobeithion Cymru
Yn 2016 yn Ffrainc, enillodd tîm Cymru Chris Coleman eu gêm agoriadol yn erbyn Slofacia o 2-1.
Roedd gan y garfan gryn hyder wedyn, ac roedd yn fan cychwyn taith lwyddiannus oedd wedi mynd â Joe Ledley a’i gyd-chwaraewyr yr holl ffordd i’r rownd gyn-derfynol.
Y tro hwn, mae’n teimlo bod gêm gyntaf Cymru yr un mor hanfodol i’w gobeithion o gymhwyso trwy’r grŵp.
“Mae’n anodd iawn darogan, ond dw i’n credu y byddwn ni’n gwybod cryn dipyn erbyn canol nos ar nos Lun,” meddai.
“Mae’r gêm gyntaf honno yn y twrnament yn allweddol.
“Os ydych chi’n colli honno, rydych chi’n ceisio dal i fyny ac rydych chi’n eich gorfodi’ch hun i geisio’r fuddugoliaeth.
“Dydy’r Unol Daleithiau ddim yn dîm hawdd chwarae yn eu herbyn nhw, mae ganddyn nhw rai unigolion gwych, felly pwy â ŵyr.
“Does dim pwysau go iawn arnyn nhw, felly gallai hynny helpu’r garfan yn fawr iawn i wneud cystal ag y gallan nhw dros eu gwlad.
“Mae’n ddechrau anodd i’r grŵp.
“Os nad yw Lloegr yn curo Iran, byddan nhw’n ysu i gael y fuddugoliaeth yn erbyn Cymru.
“Felly bydd rhaid i Gymru fod yn ofalus wrth iddyn nhw fynd ymhellach i mewn i’r grŵp.
“Ond dw i ddim yn gweld pam na all Cymru ei gwneud hi drwy’r gŵp. Mae’n un o’r grwpiau hynny pan all unrhyw beth ddigwydd, does dim byd i’w ofni.
“Mae’r tîm Cymru hwn wedi bod yn yr achlysuron mawr o’r blaen, felly mae gobaith o hyd.”
Adlais o 2016 o dan Rob Page
Mae perfformiad Rob Page wedi plesio Joe Ledley ers iddo fe olynu Chris Coleman a Ryan Giggs yn rheolwr, ac mae’n credu bod ysbryd y garfan sydd wedi’i greu gan Rob Page yn adleisio 2016.
“Dw i’n gweld undod ac ymdeimlad tebyg o fewn y grŵp,” meddai.
“Roedd gan hynny ran fawr yn yr hyn wnaethon ni ei gyflawni yn 2016.
“Roedden ni’n eithriadol o agos oddi ar y cae fel grŵp, doedd neb wedi diflasu, neb yn ffraeo.
“Fe wnaeth pawb fwynhau cwmni ei gilydd.
“Dyna amser gorau fy ngyrfa gyda Chymru.
“Doedden ni ddim eisiau mynd adref, fel tîm nac fel teulu.
“Bydd hi’n allweddol i Gymru oddi ar y cae, mae gan yr ochr gymdeithasol effaith fawr.”
Mynd i gefnogi yn Qatar
Mae Joe Ledley yn benderfynol o fwynhau’r bythefnos nesaf doed a ddêl, wrth iddo deithio i Qatar fel cefnogwr ar gyfer cyfle nad oedd ar gael iddo fe yn chwaraewr.
Mae’r dyn sy’n cael ei gofio am ei symudiadau dawns wrth ddathlu ar y cae yn rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau gyda Sefydliad Pêl-droed Joe Ledley o’r neilltu am y tro, ac yn mynd i Doha gyda’r Wal Goch.
“Dw i’n mynd i Qatar fel cefnogwr,” meddai.
“Dw i’n ei gwneud hi yn fy ffordd fy hun, dw i wedi talu am yr awyren fy hun, fy llety fy hun a’r tocynnau.
“Nawr dw i’n ei gwneud hi o’r ochr honno, bydda i’n mwynhau.
“Bydd hi’n ddiddorol cyfathrebu â’r cefnogwyr eraill a’i gwylio hi heb y pwysau, a gweld yr ochr arall.”
Bydd modd gwylio pob gêm Cymru’n fyw ar S4C. Bydd modd gwylio gêm Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau yn fyw ar S4C, nos Lun, Tachwedd 21 am 6 o’r gloch, gydag Osian Roberts, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn rhan o’r tîm.