Mae’r Cymro Rob Edwards yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at “gyfle anhygoel” i reoli Clwb Pêl-droed Luton.
Daw penodiad cyn-amddiffynnwr canol Cymru ar ôl i Gymro arall, Nathan Jones, symud o Luton ar ôl cael ei benodi’n rheolwr Southampton.
Mae Edwards, sy’n 39 oed, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd a hanner ar ôl ennill yr Ail Adran gyda Forest Green Rovers y tymor diwethaf, sy’n ei wneud yn un o’r hyfforddwyr ifainc uchaf ei barch yn y gamp ar hyn o bryd.
Mae ganddo fe enw da am ddatblygu doniau chwaraewyr iau yn dilyn cyfnodau gyda Wolves, ac fe dreuliodd e gyfnod yn hyfforddi timau dan 16 ac 20 Lloegr cyn cael ei benodi gan Forest Green Rovers, a hefyd am chwarae pêl-droed ymosodol ar y droed flaen.
“Dw i wrth fy modd cael bod yma,” meddai Rob Edwards.
“Ma’en gyfle cyffrous iawn i reoli’r clwb pêl-droed gwych hwn, ac alla i ddim aros i gael dechrau arni.
“O’r tu allan, o edrych ar Luton, fe welwch chi glwb pêl-droed sy’n cael ei redeg yn dda, clwb sy’n tyfu, yn symud ymlaen ac yn cystadlu ar ben iawn y Bencampwriaeth.
“Mae’n glwb wnaeth yn arbennig o dda y tymor diwethaf ac sy’n gwneud mor dda nawr.
“Pan ddaeth y cyfle, ar unwaith fe welwch chi grŵp arbennig o chwaraewyr yno, a chlwb sy’n edrych i un cyfeiriad yn unig.
“Wedyn dw i’n dod i mewn ac yn dechrau cyfarfod â phawb, ac fe gewch chi deimlad mor gynnes.
“Gallwch chi weld ei fod e’n glwb sy’n rhoi ei bobol a’i gefnogwyr yn gyntaf.
“Dw i’n teimlo cryn dipyn o bositifrwydd ar hyd y lle, a dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn rhan ohono fe.”