Mistar Urdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Mistar Urdd yn ei goch, gwyn a gwyrdd… a’i het bwced yn Stadiwm Dinas Caerdydd

 

Sage Todz a Dawn Bowden
Fe fu’r artist drill Sage Todz yn perfformio ‘O Hyd’ yn y digwyddiad lle’r oedd Dawn Bowden, un o weinidogion Llywodraeth Cymru, yn bresennol

 

Rhydian Bowen Phillips yn ei het bwced yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Rhydian Bowen Phillips oedd yn cyflwyno’r digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd

 

Y Barry Horns
Roedd y Barry Horns yno i chwarae rhai o hoff ganeuon y cefnogwyr

 

Vaughan Gething, Dawn Bowden a het bwced
Vaughan Gething, Dawn Bowden a het bwced fawr

 

Gareth Bale yn chwifio
Roedd y dorf ifanc yn awyddus i weld eu harwr Gareth Bale yn ymarfer

 

Rob Page yn cymeradwyo'r dorf
Y dyn ei hun, Rob Page, sydd wedi efelychu un arall o Gwm Rhondda, Jimmy Murphy, wrth arwain Cymru i Gwpan y Byd

 

Carfan Cymru'n cael tynnu llun swyddogol o flaen y dorf
Carfan Cymru’n cael cyfle am un llun olaf cyn gadael y cae

 

Dan James
Dan James yn barod i fynd…

 

Bws tîm Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd tu ôl i feiciau'r heddlu
Qatar amdani! Y bws yn barod i adael y stadiwm